Sir Gaerfyrddin yn croesawu digwyddiad Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru 2026 i Barc Gwledig Pen-bre

42 diwrnod yn ôl

Cyhoeddwyd mai Parc Gwledig Pen-bre fydd y lleoliad ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Lluoedd Arfog Cymru eleni.

Bydd Sir Gaerfyrddin yn cynnal y digwyddiad ar 27 Mehefin 2026. Mae'r digwyddiad hwn, sy'n addas ar gyfer y teulu cyfan, yn gwahodd y cyhoedd i ddangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog.

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cael ei ddathlu bob blwyddyn mewn rhanbarth gwahanol o Gymru, gan ddod â chymunedau at ei gilydd i gydnabod a diolch i'n Lluoedd Arfog. Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, y tri gwasanaeth, ac amryw sefydliadau cefnogol.

Parc Gwledig Pen-bre sy'n edrych dros Fae Caerfyrddin yw un o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru; mae yno 500 erw o goetiroedd sydd wedi ennill y Faner Werdd, ynghyd â thraeth wyth milltir sydd wedi ennill y Faner Las, llethr sgïo sych, rhedfa dobogan, gwallgolff, teithiau ar y trên, lle chwarae antur, amrywiaeth o lwybrau natur a safle carafanau teithiol.

Mae Pen-bre yn darparu cyfleusterau gwersylla ar y safle felly mae'n lle perffaith i deuluoedd, cyn-filwyr ac ymwelwyr sy'n teithio o bob cwr o Gymru a thu hwnt i fwynhau penwythnos cofiadwy.

Cynghorir pobl i archebu'n gynnar ar gyfer gwersylla gan fod disgwyl y bydd galw mawr amdano yn ystod penwythnos y digwyddiad.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu:

“Mae'n anrhydedd i Sir Gaerfyrddin gynnal Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru 2026. 

“Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i bawb, gan gynnwys y Lluoedd, Llywodraeth Cymru a chymunedau'r Lluoedd Arfog ledled y sir sy'n ein helpu i drefnu'r digwyddiad hwn yn un o gyfleusterau mwyaf mawreddog y Cyngor Sir. Rydyn ni'n gobeithio y bydd pobl y sir, a phobl o bob rhan o Gymru, yn dod i ddangos eu cefnogaeth i'r Lluoedd Arfog yng Nghymru.”

Gallwch chi gael y wybodaeth ddiweddaraf yma.