Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin yw'r lleoedd perffaith i fusnesau lleol annibynnol arddangos eu cynnyrch
4 diwrnod yn ôl
Mae marchnadoedd Sir Gaerfyrddin yn gyfle gwych i fusnesau newydd a phresennol arddangos eu cynnyrch mewn lle manwerthu presennol, ac mae unedau ar gael ar hyn o bryd mewn amrywiaeth o fannau yn ein marchnadoedd dan do.
Mae'r rhain yn cynnwys mannau stondinau traddodiadol ac opsiynau dros dro sy'n ddelfrydol ar gyfer entrepreneuriaid, busnesau newydd a grwpiau cymunedol. Mae marchnadoedd Llanelli a Chaerfyrddin yn darparu opsiynau dan do, ac mae'r marchnadoedd awyr agored yng Nghaerfyrddin, Llandeilo, Rhydaman a Llanelli yn darparu mannau hyblyg ar gyfer amrywiaeth o fathau o fusnes.
Y masnachwr diweddaraf i ymuno â Marchnad Caerfyrddin yw Noodle 101, sy'n cyflwyno blasau bywiog a beiddgar bwyd nwdls de-ddwyrain Asia i Gaerfyrddin. Mae Noodle 101, sydd wedi'i ysbrydoli gan draddodiadau coginio cyfoethog Gwlad Thai, Fietnam, Japan a thu hwnt, yn arbenigo mewn powlenni nwdls wedi'u paratoi'n ffres a chawl aromatig. Mae'r lleoliad hamddenol yn gartref perffaith i Noodle 101 ac yn lle delfrydol i fynd i gael cinio neu swper cyflym neu gludfwyd i siopwyr ac ymwelwyr sy'n chwilio am fwyd blasus yng nghanol tref Caerfyrddin.
Mae marchnadoedd Sir Gaerfyrddin yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi busnesau annibynnol, gan gynnig cyfle i fasnachwyr arddangos amrywiaeth eang o nwyddau, o gynnyrch ffres i eitemau wedi'u gwneud â llaw, gan gynnwys colur, nwyddau anifeiliaid anwes, ffrwythau a llysiau, esgidiau, cig, cawsiau, dillad, gwlân a nwyddau gwau, barbwyr/trin gwallt a llawer mwy.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
“P'un a ydych chi'n fasnachwr sefydledig neu'n rhoi cynnig ar rywbeth newydd, mae marchnadoedd Sir Gaerfyrddin yn gyfle perffaith i fasnachwyr annibynnol ac mae amrywiaeth o fathau o stondinau ar gael, gan gynnwys opsiynau dros dro o £30 yr wythnos."
Ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin i gael rhagor o wybodaeth am fod yn fasnachwr yn un o farchnadoedd Sir Gaerfyrddin.
