Gwahoddir trigolion a busnesau i helpu i lunio dyfodol eu trefi
5 diwrnod yn ôl
Gwahoddir trigolion a busnesau ledled Sir Gâr i ddweud eu dweud ar ddyfodol eu trefi mewn cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned yn ddiweddarach y mis hwn.
Bydd y sesiynau galw heibio, a gynhelir yn Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman, yn rhoi cyfle i bobl leol adolygu canfyddiadau'r ymgynghoriad, rhannu eu barn, a helpu i benderfynu ar y camau nesaf ar gyfer eu cymunedau.
Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal rhwng 3am a 7pm ar:
24 Chwefror 2026 – 1 Rhodfa Stepney, Llanelli
25 Chwefror 2026 - Eglwys Gymunedol Tywi, Rhodfa'r Santes Catrin, Caerfyrddin
26 Chwefror 2026 – Neuadd y Pensiynwyr, Rhydaman
Mae croeso i drigolion a busnesau fynychu ar unrhyw adeg yn ystod y sesiynau i siarad â swyddogion a rhoi adborth.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
"Mae ein trefi yn cael eu siapio gan y bobl sy'n byw ac yn gweithio ynddynt. Rydyn ni am glywed yn uniongyrchol gan drigolion a busnesau lleol am yr hyn sy'n bwysicaf iddyn nhw a'r hyn yr hoffent ei weld yn y dyfodol.
Mae'r sesiynau hyn yn gyfle pwysig i bobl rannu eu syniadau, codi pryderon a helpu i ddylanwadu ar ein camau nesaf. Bydd eich barn yn chwarae rhan allweddol wrth lunio cyfeiriad eich cymuned yn y dyfodol, a byddwn yn annog pawb i ddod draw i ddweud eu dweud.”
Mae'r digwyddiadau yn rhan o ymrwymiad y cyngor i sicrhau bod lleisiau lleol yn parhau i fod yn ganolog wrth wneud penderfyniadau a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
