Diweddariad – Gwaith ffordd yr A484 Cwmduad
3 diwrnod yn ôl
Mae'r gwaith hanfodol ar yr A484 yng Nghwmduad wedi gwneud cynnydd yn gynt na'r disgwyl a disgwylir i'r ffordd ailagor o 6pm heddiw (dydd Gwener 20 Chwefror 2026).
Mae'r holl waith mawr o ran atgyweirio ar y ffordd bellach wedi'i gwblhau, felly mae modd i'r ffordd ailagor yn ddiogel tra bydd y gwaith terfynol o osod wyneb newydd yn cael ei wneud.
Mae'r gwaith sy'n weddill o ran gosod wyneb newydd wedi'i drefnu ddydd Mercher 4 Mawrth, ddydd Iau 5 Mawrth a dydd Gwener 6 Mawrth. Oherwydd y math o waith a'r peiriannau sydd eu hangen, bydd y ffordd ar gau o 9am tan 6pm ar y dyddiau hyn.
Bydd llwybrau dargyfeirio ar waith yn ystod y cyfnod cau.
Diolch i'r trigolion, y busnesau ac i ddefnyddwyr ffyrdd am eu hamynedd parhaus yn ystod y gwaith hanfodol hwn.
