Dewch o hyd i'r anrheg Dydd Sant Ffolant berffaith ym marchnadoedd Sir Gaerfyrddin
1 diwrnod yn ôl
P'un a ydych chi'n dathlu Dydd Sant Ffolant gyda'ch partner neu'ch ffrindiau, dewch i ymweld â marchnadoedd Sir Gaerfyrddin, lle mae masnachwyr lleol, annibynnol yn cynnig ystod eang o anrhegion wedi'u gwneud â llaw, cardiau, blodau a gemwaith yn ogystal â chynnyrch a danteithion lleol, sy'n berffaith i rywun arbennig.
Mae marchnadoedd dan do Llanelli a Chaerfyrddin yn cynnig:
• Eitemau wedi'u gwneud â llaw ac eitemau artisan - celf, crefftau, addurniadau cartref ac ategolion unigryw
• Amrywiaeth o gardiau cyfarch yn ogystal â blodau ffres ac artiffisial
• Anrhegion, gemwaith ac ategolion unigryw
• Detholiad o gawsiau Cymreig, cyffeithiau, siocledi a danteithion
• Cynnyrch lleol o ansawdd gwych i greu pryd blasus i rywun arbennig
Mae marchnad dan do Llanelli, sy'n adnabyddus am ei hawyrgylch groesawgar a'i hamrywiaeth eang, yn cyfuno traddodiad gyda chynigion newydd ffres sy'n denu pobl leol ac ymwelwyr dro ar ôl tro. Mae hyn yn cynnwys blodau ffres ac artiffisial, cardiau, anrhegion, nwyddau parti yn ogystal â nwyddau wedi'u pobi'n ffres a danteithion melys.
Gyda gwreiddiau'n dyddio'n ôl dros 800 mlynedd, mae marchnad dan do Caerfyrddin yn ganolfan fywiog ac mae'n cynnig popeth o gigoedd a chynnyrch caws lleol i gelf, crefftau, blodau ac anrhegion unigryw o dan yr un to.
I'r rhai sy'n mwynhau archwilio trefi Sir Gaerfyrddin yn yr awyr agored, mae marchnadoedd awyr agored yn cynnig cynnyrch lleol ac eitemau eraill bob wythnos, gan gynnwys:
• Mae Marchnad Awyr Agored Caerfyrddin yn cynnig traddodiad bywiog ar ddydd Mercher a dydd Sadwrn sy'n llawn lliw a dewis
• Mae Marchnad Ffermwyr Caerfyrddin yn cynnig cynnyrch tymhorol a lleol yn uniongyrchol gan dyfwyr a gwneuthurwyr bob dydd Gwener
• Mae Marchnad Awyr Agored Llanelli ar ddydd Iau a dydd Sadwrn yn cynnig nwyddau ffres, ffasiwn a nwyddau cartref
• Marchnadoedd awyr agored Rhydaman a Llandeilo - llawn cymeriad lleol bob dydd Gwener
(yn amodol ar bresenoldeb masnachwr)
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
“Mae masnachwyr marchnad Sir Gaerfyrddin yn cynnig cyfle gwych i siopa'n lleol ac yn gynaliadwy y Dydd Sant Ffolant hwn, gyda chynnyrch o safon yn ogystal â syniadau anrhegion o dusw o flodau traddodiadol, i anrhegion mwy unigryw.
Ewch i'ch marchnad dan do neu awyr agored leol yr wythnos hon i ddarganfod mwy am yr hyn sydd ganddyn nhw i'w gynnig.”
I gael rhagor o wybodaeth am Farchnadoedd Sir Gaerfyrddin, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.
