Dechrau ar y gwaith o chwilio am bum corff sydd o bosibl wedi'u claddu o dan faes parcio'r Cyngor
21 awr yn ôl
Mae sgan dwfn o'r tir wedi cael ei gynnal ym maes parcio Neuadd y Sir Caerfyrddin, hen safle'r carchar, wrth chwilio am gyrff pum troseddwr a gafwyd yn euog a'u crogi yn yr 1800au.
Gan ddefnyddio sganiwr radar digidol, cynhaliodd Shane Gwilt o Leica Geosystems y sganiau ddydd Sul 15 Chwefror i geisio dod o hyd i'r pedwar llofrudd a gafwyd yn euog ac un ffugiwr a gafwyd yn euog a ddienyddiwyd rhwng 1818 a 1894 ac a allai orwedd o dan faes parcio sy'n eiddo i'r Cyngor, gerddi'r carchar gynt.
Wedi'i hwyluso gan Aelod Cabinet Adnoddau Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Alun Lenny a chyn Faer Tref Caerfyrddin, Richard Goodridge, mae canfyddiadau'r sgan wedi'u hanfon i'r Eidal i'w dadansoddi, ac mae disgwyl i'r canlyniadau gyrraedd ymhen wythnos.
Saif Neuadd y Sir ar safle gwreiddiol hen garchar Caerfyrddin a gaewyd ym 1922. Fodd bynnag, er gwaethaf y ffaith i'r adeiladau gael eu dymchwel yn yr 1930au, mae Richard Goodridge yn credu bod cyrff yn dal i fod lle cawsant eu claddu'n wreiddiol.
Nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwriadu tarfu ar y gweddillion na symud y gweddillion os cânt eu darganfod.
Dywedodd Richard Goodridge:
"Yn seiliedig ar y dystiolaeth a'r ymchwil rydw i wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydw i'n credu'n gryf fod gweddillion y pum troseddwr hyn, a grogwyd am eu troseddau, yn dal i fod lle cawsan nhw eu claddu.
"Dyma ddirgelwch mawr sydd wedi cyfareddu trigolion Caerfyrddin ers dros gan mlynedd. Mae'n anhygoel nad oedd y cyrff wedi eu codi pan gafodd y carchar ei ddymchwel."
"Bydd dod o hyd iddyn nhw o leiaf yn dod â dirgelwch sy'n deilwng o nofel Sherlock Holmes!"
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny:
"Nid oedd y gwaith a wnaed ddydd Sul mewn ymgais i ddod o hyd i weddillion y pum troseddwr a ddienyddiwyd yn amharu ar wyneb y maes parcio mewn unrhyw ffordd, ac nid oedd yn gost i'r cyngor sir. Ond efallai y bydd yn ychwanegu pennod arall at hanes cyfoethog Caerfyrddin fel tref hynaf Cymru, felly rydyn ni'n aros yn eiddgar i weld y canlyniadau!"
