Dathlu plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ledled Sir Gaerfyrddin ar Ddiwrnod Gofal
3 diwrnod yn ôl
Ar y Diwrnod Gofal hwn (Dydd Gwener, 20 Chwefror 2026), mae Maethu Cymru Sir Gâr yn dathlu cyflawniadau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ledled y sir.
Mae Diwrnod Gofal, sydd bellach yn ei ddegfed flwyddyn, yn codi ymwybyddiaeth o brofiadau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac yn cydnabod yr hyn y maen nhw’n llwyddo i’w gyflawni pan fyddant yn cael y gefnogaeth gywir. Mae'r straeon a rennir isod yn cynrychioli rhai o deithiau ysbrydoledig pobl go iawn ledled y sir.
Mae Zach yn berson ifanc â phrofiad o ofal sy'n defnyddio ei brofiad gofal fel aelod gwerthfawr o banel maethu Maethu Cymru Sir Gâr. Gan weithio ar y cyd â gweithwyr proffesiynol, mae'n ystyried asesiadau ac yn helpu i wneud argymhellion ynghylch addasrwydd ymgeiswyr i faethu. Ar hyn o bryd mae Zach yn ei drydedd flwyddyn yn y brifysgol.
Mae Jodie yn rhedeg ei busnes llwyddiannus ei hun ac mae hefyd yn fam i ddau o blant, gan gydbwyso entrepreneuriaeth a bywyd teuluol.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu cymorth parhaus i bobl ifanc sy'n gadael gofal ledled y sir drwy ei gynllun Gadael Gofal: Gwasanaethau'r Cam Nesaf. Mae cymorth ar gael hyd at 21 oed, neu 25 oed mewn rhai amgylchiadau, gan helpu pobl ifanc i symud tuag at fyw fel oedolion gyda hyder a sefydlogrwydd.
Mae Eden wedi cael cefnogaeth drwy gynllun Cyngor Sir Caerfyrddin, sef Gadael Gofal: Gwasanaethau'r Cam Nesaf.
Dywedodd Poppy, Ymgynghorydd Personol Eden:
Eden oedd un o'r bobl ifanc cyntaf i mi gael y pleser o weithio gyda nhw. Pan wnes i gwrdd â hi am y tro cyntaf, roedd hi'n dawel ofalus ac yn nerfus am y dyfodol. Roedd gen i bob ffydd yn Eden, a chyn pen dim roedd hi'n pacio ei bagiau ar gyfer y brifysgol. Fe wnes i ei helpu i symud i’r neuaddau prifysgol, lle wnaeth hi wirioneddol ffynnu. Mae Eden bellach yn falch iawn o'i gradd 2:1 yn LLB Y Gyfraith. Mae hi wedi gweithio mor galed i gyrraedd lle mae hi heddiw.”
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:
Rydyn ni'n hynod o falch o blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, nid yn unig heddiw, ond bob dydd, ac nid yn unig yn Sir Gaerfyrddin, ond ym mhobman. Mae'r Diwrnod Gofal yn foment bwysig i gydnabod eu cyflawniadau, dathlu eu teithiau ac ailddatgan ein hymrwymiad i sefyll ochr yn ochr â nhw wrth iddynt symud ymlaen.”
I gael gwybod mwy am faethu yn Sir Gaerfyrddin, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr.
