Dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Sir Gaerfyrddin
6 diwrnod yn ôl
Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi wedi'ch ysbrydoli gan eiriau nawddsant Cymru: “Gwnewch y pethau bychain." Mae preswylwyr ac ymwelwyr yn cael eu hannog i ddathlu ysbryd Dewi Sant drwy 'Gymwynas Gymreig': coginio powlen o gawl i gymydog, gwisgo cenhinen Pedr, rhoi cynnig ar ychydig eiriau o Gymraeg, neu gefnogi busnesau lleol.
Beth am siopa'n lleol ym marchnadoedd Sir Gaerfyrddin am gynhwysion tymhorol ffres a gwneud cawl, neu gymryd rhan yn y daith O Gawl i Gawl, gan flasu fersiynau blasus o'r pryd Cymreig clasurol hwn gan gogyddion lleol talentog?
Bydd rhaglen fywiog o ddigwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei chynnal ledled y sir, o berfformiadau diwylliannol a gweithdai i'r teulu i weithgareddau awyr agored a gwyliau bwyd. Mae rhestr lawn o ddigwyddiadau ar gael ar Darganfod Sir Gâr, canllaw pwrpasol i'r hyn sy'n digwydd ar draws y sir.
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau sy'n canolbwyntio ar y gymuned, gan gynnwys sesiynau â thema a dathliadau mewn llyfrgelloedd lleol.
Bydd y dathliad yn parhau ar draws marchnadoedd Sir Gaerfyrddin, a bydd gorymdaith drwy Lanelli (26 Chwefror) a pherfformiad gan gôr lleol. Yng Nghaerfyrddin, bydd People Speak Up yn cynnal sesiynau adrodd straeon diddorol ochr yn ochr â gweithgareddau celf a chrefft (28 Chwefror 10-3). Hefyd, bydd Green Top Markets yn cefnogi marchnadoedd Dydd Gŵyl Dewi yn Rhydaman (27 Chwefror) a Llanelli (28 Chwefror), gan ddod â chymunedau at ei gilydd i ddathlu diwylliant a threftadaeth Cymru.
Bydd Parêd Mawr Dydd Gŵyl Dewi yng nghanol tref Caerfyrddin yn dechrau am 11am ar 28 Chwefror, o Eglwys Sant Pedr i'r Clos Mawr. Anogir preswylwyr ac ymwelwyr i ddod â baneri a chlychau.
Bydd noson o adrodd straeon yn Tea Traders, Caerfyrddin, yn archwilio bywyd Dewi Sant, a bydd y storïwr lleol, Liz Evans, yn rhannu straeon am arferion a thraddodiadau Cymreig.
Bydd Canolfan Pentre Awel yn cynnal Gŵyl Dydd Gŵyl Dewi yn cynnwys stondinau marchnad Cymreig a cherddoriaeth fyw gan berfformwyr lleol.
Gall teuluoedd fwynhau gweithgareddau awyr agored ym Mharc Gwledig Pen-bre, gan gynnwys Ras Liw 5K â thema Gymreig. Gall pobl sy'n dwlu ar fwyd ymweld â Gŵyl Bwyd a Diod Dydd Gŵyl Dewi (28 Chwefror – 1 Mawrth) i fwynhau cynnyrch Cymreig, cerddoriaeth fyw, arddangosiadau coginio, ac amrywiaeth o stondinau bwyd a diod.
Yn newydd ar gyfer 2026, bydd Gŵyl y Pethau Bychain (1 Mawrth) yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, yn dathlu diwylliant Cymru gyda cherddoriaeth fyw gan artistiaid newydd Gorwelion/Horizons y BBC, llwybrau rhyngweithiol, gweithdai creadigol, gweithgareddau natur a chelf fyw gan Nathan Wyburn.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
“Mae Dydd Gŵyl Dewi yn ddathliad gwych o'n diwylliant a'n cymunedau. Mae'n gyfle i ddathlu neges Dewi Sant, cefnogi busnesau lleol, cymryd rhan mewn digwyddiadau, a rhannu caredigrwydd. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb i'r dathliadau ledled Sir Gaerfyrddin.”
I gael manylion llawn am y digwyddiadau ac i gynllunio eich ymweliad, ewch i Darganfod Sir Gâr.
