Dathlu chwaraewyr talentog Sir Gaerfyrddin yng Ngwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin

3 diwrnod yn ôl

Cynhaliwyd Gwobrau Chwaraeon blynyddol Actif Sir Gaerfyrddin ddydd Iau 12 Chwefror 2026, i ddathlu chwaraeon ledled Sir Gaerfyrddin.

Yn cael ei drefnu gan dîm Cymunedau Actif Cyngor Sir Caerfyrddin a'i gynnal yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli, mae'r gwobrau yn cydnabod cyflawniadau a llwyddiannau athletwyr unigol a chlybiau chwaraeon, yn ogystal â chydnabod cyfraniad hyfforddwyr ymroddedig a gwirfoddolwyr gweithgar sy'n gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau drwy chwaraeon. 

Cafodd Jac Morgan, o Frynaman, ei enwi yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Actif Sir Gâr 2025, yn dilyn blwyddyn lwyddiannus ar y cae rygbi a oedd yn cynnwys cael ei ddewis ar gyfer taith nodedig Llewod Prydain ac Iwerddon 2025 i Awstralia.

Canlyniadau eraill y noson:

  • Chwaraewr Ifanc  -  Ashwin Yoganathan
  • Athletwraig Ifanc – Darcy Blythe Coslett
  • Chwaraewr Anabl – Jimmy Staveley
  • Tîm Ifanc – Alexander Evans ac Ava Fletcher
  • Tîm – Tîm Merched Teigrod Tywi
  • Hyfforddwr – Matthew De Filipo
  • Hyfforddwr Perfformiad o Safon Uchel - Chris Rooke
  • Gwirfoddolwr - Delyth Edwards
  • Person Ifanc sy'n Ysbrydoli - Sophie Regan
  • Gwasanaethau Rhagorol - John Davies
  • Clwb – Clwb Tenis Llandybie

Bellach yn ei 26ain flwyddyn, roedd Gwobrau Chwaraeon 2025 yn nodi cyflawniadau rhwng Medi ac Awst 2025. Cyflwynwyd y noson gan y cyn-ddyfarnwr rygbi rhyngwladol a'r cyflwynydd, Nigel Owens MBE.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod  Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Rwy'n falch iawn bod Gwobrau Chwaraeon Cymunedau Actif unwaith eto wedi tynnu sylw at y clybiau a'r unigolion ym maes chwaraeon yn Sir Gaerfyrddin. 

Llongyfarchiadau i holl enillwyr ac enwebeion y gwobrau am eu cyflawniadau gwych."

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, prif noddwyr y gwobrau oedd Grŵp Gavin Griffiths.

I gael rhagor o wybodaeth am y Gwobrau Chwaraeon Cymunedau Actif, ewch i wefan Actif.