Cyngor yn cymeradwyo cyllideb 2026-27

4 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo ei gyllideb refeniw ar gyfer 2026-27, sy'n cynnwys cynnydd o 4.9% yn y dreth gyngor a gostyngiadau gwariant o £8.7m.

Cafodd cynnig gwreiddiol o 6.5% ei ostwng i 4.9% yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus â phreswylwyr, ysgolion, busnesau a rhanddeiliaid ledled Sir Gaerfyrddin, arbediad o £5m gan gyfraniadau cyflogwr Cronfa Bensiwn Dyfed a chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adnoddau:

Mae'r Strategaeth Gyllideb a gymeradwywyd yng nghyfarfod y Cyngor Llawn yn ymateb i'r adborth gwerthfawr a godwyd fel rhan o'r broses ymgynghori cyhoeddus ac yn sicrhau, cyn belled ag y bo modd, bod lefelau gwasanaeth a safonau yn cael eu cynnal.
Dim ond 17% o'r incwm sydd ei angen arnom i redeg y gwasanaethau hanfodol sy'n cael ei godi gan y Dreth Gyngor, ac mae tua 70% o'n cyllideb net yn dibynnu ar gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Oherwydd £300m ychwanegol a ryddhawyd fel rhan o Gyllideb Cymru yn y Senedd ar gyfer iechyd a llywodraeth leol, rydyn ni wedi derbyn cyllid ychwanegol o bron £6.5m sydd wedi arwain at welliant net o bron £3m yn sefyllfa ariannol y Cyngor, yn ogystal â dileu'r diffyg a ragwelir o £3.5m.
Diolch i fwy na 1,200 o breswylwyr, staff ysgolion, cynghorau tref a chymuned, undebau, pwyllgorau craffu a phobl ifanc a ymatebodd i'n hymgynghoriad. O ganlyniad i'r ymgysylltu rhagorol hwn ac mewn ymateb i'r ymgynghoriad, a alluogwyd gan y cyllid ychwanegol, mae'r gyllideb derfynol hon yn cynnwys gwelliannau o £850,000 ac yn dileu rhai toriadau a ystyriwyd yn flaenorol.
Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar £160,000 o doriadau ar gyfer priffyrdd, gostyngiad o 50% yn y cynnydd mewn costau prydau ysgol, dileu'r cynnig i roi'r gorau i Ganolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn yn 2027/28 i roi amser ar gyfer gwaith dichonoldeb parhaus, a chael gwared ar arbedion yn y Tîm Teuluoedd Gyda'n Gilydd.
Yn ogystal â'r newidiadau hyn, mae ein cyllideb derfynol yn cynnig buddsoddiad ychwanegol mewn cynnal a chadw eiddo, y tîm addysg moderneiddio a mwy o gefnogaeth hanfodol i'r Gymraeg mewn addysg a buddsoddiadau pellach mewn priffyrdd.”