Cyngor yn chwilio am aelodau ar gyfer Fforwm Twristiaeth Gynaliadwy newydd

4 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn i fusnesau, atyniadau a sefydliadau o'r sector twristiaeth ymuno â Fforwm Twristiaeth Gynaliadwy newydd.

Nod y Fforwm Twristiaeth Gynaliadwy, a gafodd ei ddatblygu i gefnogi'r sector yn Sir Gâr, fydd: 

  • Cynnwys partneriaid allweddol yng ngwaith y Cyngor yn y sector twristiaeth, gan gynnwys materion gweithredol ymarferol, heriau a chyfleoedd
  • Cael gwybodaeth gan aelodau i gefnogi'r gwaith o gynllunio a chyflawni strategaethau a gweithgareddau i gynorthwyo twf parhaus mewn ansawdd ac effaith economaidd
  • Trafod yr effaith leol ac unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol ar gyfer penderfyniadau polisi cenedlaethol yn ogystal â materion ehangach o ran y sector
  • Darparu proses gyfathrebu ddwyffordd effeithiol rhwng gwahanol feysydd o'r sectorau twristiaeth, preifat, cyhoeddus a chymunedol

Bydd aelodau'r Fforwm Twristiaeth Gynaliadwy yn cynrychioli'r sector twristiaeth, gan roi dealltwriaeth werthfawr trwy eu harbenigedd, eu profiad a'u barn. Bydd gofyn iddynt hefyd roi adborth a chynnig sylwadau ar waith prosiect/canllawiau drafft, ystyried a rhoi cyngor ar gyfleoedd neu faterion posibl yn y sector a rhoi gwybod am waith y fforwm i eraill yn y maes y maen nhw'n ei gynrychioli yn ogystal â chynnig pynciau i'w trafod.

Er mwyn darparu Fforwm llawn a chytbwys, anogir cynrychiolaeth o'r cefndiroedd canlynol:

  • Gwestai (cadwyn ac annibynnol) 
  • Gwely a Brecwast/gwesty bach a llety hunanarlwyo
  • Carafanau/gwersylla/hostelau
  • Tafarndai / bwytai
  • Digwyddiadau
  • Atyniadau a lleoedd i ymweld â nhw (am dâl)
  • Adwerthu

Bydd aelodau o'r sector cyhoeddus a'r sector cymunedol hefyd yn rhan o'r Fforwm gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru/CADW yn ogystal â Chynghorau Tref a Chymuned lleol. Bydd swyddogion o dimau perthnasol y Cyngor Sir hefyd yn cymryd rhan pan fo angen.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth:

"Bydd y Fforwm Twristiaeth Gynaliadwy newydd yn gyfle gwych i gynrychiolwyr o'r sector twristiaeth yn Sir Gâr ddweud eu dweud ar benderfyniadau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eu sector.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â'r Fforwm a fydd yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn, dan fy nghadeiryddiaeth i, i gynnig dealltwriaeth werthfawr o'r sector."

I gael rhagor o wybodaeth am ymuno â'r Fforwm Twristiaeth Gynaliadwy, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.