Bwriad i gau'r A484 yng Nghwmduad
1 diwrnod yn ôl
Bydd yr A484 yng Nghwmduad yn cael ei chau i wneud gwaith diogelwch hanfodol ar y ffordd.
Bydd y ffordd yn cael ei chau o ddydd Llun 16 Chwefror 2026, a disgwylir iddi fod ar gau am oddeutu pedair wythnos. Bydd y gwaith hwn yn dechrau pan fydd ffordd Bronwydd, sydd ar gau ar hyn o bryd, yn ailagor, gan sicrhau nad yw'r ddwy ffordd ar gau ar yr un pryd.
Mae angen cyflawni'r gwaith i gefnogi a chynnal a chadw'r seilwaith priffyrdd yn y lleoliad hwn ac mae'n angenrheidiol i sicrhau diogelwch parhaus y rhwydwaith ffyrdd. Bydd y gwaith hwn yn helpu i leihau'r risg o broblemau mwy sylweddol yn datblygu yn y dyfodol.
Pan fydd y ffordd ar gau, bydd llwybr dargyfeirio ag arwyddion llawn mewn lle. Y ffordd arall ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r de fydd mynd ar hyd yr A484 i Saron, yr A486 i Gylchfan Pont-tyweli, y B4336 i Lanllwni, yr A485 i Gaerfyrddin, yr A485 i Gylchfan Francis Well, ac yna'r A484 i ailymuno â'r ffordd i'r de o'r man lle mae'r ffordd ynghau. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r gogledd.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydnabod y gall cau ffyrdd achosi tarfu a hoffai ddiolch i drigolion, busnesau a defnyddwyr y ffordd am eu hamynedd tra bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud. Caiff modurwyr eu hannog i gynllunio eu teithiau ymlaen llaw, caniatáu amser teithio ychwanegol a dilyn y llwybrau dargyfeirio penodol.
