Ymgynghoriad yn dechrau ynghylch dalgylchoedd a chludiant ysgol yn Sir Gaerfyrddin
5 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ceisio barn ar drefniadau derbyn ysgolion arfaethedig ar gyfer y Flwyddyn Academaidd 2027/28. Mae hyn yn cynnwys cynigion i addasu dalgylchoedd a chludiant ysgol ar draws y sir.
Mae dalgylchoedd yn Sir Gaerfyrddin heb newid fawr ddim ers yr adolygiad diwethaf yn 2010, heblaw am ad-drefnu/cau ysgolion. Mae'r newidiadau arfaethedig wedi'u datblygu ar sail data diweddar ac yn deillio o:
- Sicrhau bod dalgylchoedd ysgolion yn gyson â Ffin Awdurdod Unedol Sir Gaerfyrddin
- Sicrhau bod pob ardal yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei chynnwys
- Cau/agor ysgolion blaenorol
- Cynnwys rhai ardaloedd tir lle nad oes llawer o ddisgyblion
- Adlewyrchu mwy o gydlyniant cymunedol
- Mwy o gywirdeb i sicrhau bod eiddo o fewn llinellau dalgylch
- Technoleg ddigidol yn galluogi dealltwriaeth fwy cywir o ble mae disgyblion yn dod a pha ysgolion maen nhw'n eu mynychu
- Adborth o drafodaethau anffurfiol ag ysgolion
- Mwy o ddisgyblion na'r lleoedd sydd ar gael a gormod o alw mewn rhai lleoliadau a’r angen i gydbwyso niferoedd disgyblion er mwyn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ariannol
- I gefnogi darpariaeth fwy effeithlon o gludiant ysgol
Fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, rydym hefyd yn gofyn am eich barn ar y newidiadau arfaethedig i gludiant am ddim i'r ysgol, i gefnogi darpariaeth fwy effeithlon. Ymysg y cynigion, rydym yn cynnig y bydd cludiant am ddim ar gael i ysgol ddalgylch dysgwyr yn unig o fis Medi 2027 ymlaen, yn unol â'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru).
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg, y Cynghorydd Glynog Davies:
Bydd y newidiadau arfaethedig i ddalgylchoedd a chludiant ysgol o fewn Sir Gaerfyrddin yn ein galluogi i sicrhau darpariaeth addysg fwy cytbwys ar draws y sir.
Rydym yn annog rhieni, athrawon, llywodraethwyr ysgolion a chymunedau ysgol ehangach i ddweud eu dweud yn yr ymgynghoriad.
Mae'r ymgynghoriad yn cau ddydd Gwener 27 Chwefror 2026. I gael rhagor o wybodaeth neu i gymryd rhan yn yr arolwg, ewch i wefan Cyngor y wefan. Gellir gofyn am gopïau papur hefyd drwy ymweld ag un o ganolfannau Hwb y Cyngor Sir yn Rhydaman, Caerfyrddin neu Lanelli.
Mae Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir yn gyfrifol am eu Polisi Derbyn eu hunain ac am ymgynghori ynghylch mapiau dalgylchoedd. Mae'r adolygiad o ddalgylchoedd yn berthnasol i ysgolion prif ffrwd yn unig ac nid yw'n cynnwys Unedau Anghenion Ychwanegol nac ysgolion arbenigol.
Nid yw'r ymgynghoriad hwn yn effeithio ar hawl y rhieni i wneud cais am le mewn ysgol o'u dewis yn unol â Pholisi Derbyn Llywodraeth Cymru.
