Y Panel Heddlu a Throseddu yn cefnogi praesept 2026/27
6 diwrnod yn ôl
Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys wedi cymeradwyo praesept arfaethedig 2026/27 o 7.47% gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llewelyn, yn ystod ei gyfarfod cyntaf o'r flwyddyn ddydd Gwener, 23 Ionawr 2026.
Mae'r praesept o 7.47% yn cyfateb i oddeutu £2.25 y mis (£26.95 y flwyddyn) ar gyfer eiddo Band D ar gyfartaledd a bydd yn codi cyfanswm praesept o £93.033m i gefnogi gofyniad cyllidebol o £161.905m.
Bydd y praesept y cytunwyd arno yn cefnogi buddsoddiad wedi'i dargedu mewn gwasanaethau plismona, gan ganolbwyntio ar gryfhau Timau Plismona Lleol a chefnogi gweithgarwch atal.
Wrth ystyried y praesept arfaethedig, ystyriodd y Panel ystod o ffactorau gan gynnwys heriau yn y dyfodol fel pwysau costau, galw am wasanaethau, lefelau staffio, buddsoddiadau ac effeithlonrwydd yn y dyfodol.
Arweiniodd y Cynghorydd Keith Evans o Gyngor Sir Ceredigion, Is-gadeirydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, graffu'r Panel ar y praesept a dywedodd:
Mae aelodau o'r Panel Heddlu a Throseddu wedi craffu ar gyllideb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer 2026/27, a oedd yn cynnwys cynnal dadansoddiad manwl o werth am arian i sicrhau ei bod yn parhau i ddarparu gwerth am arian i breswylwyr Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a Sir Benfro.
Er gwaethaf hinsawdd ariannol anodd barhaus, rydym yn cefnogi'r praesept arfaethedig i gydnabod y bydd hyn yn galluogi Heddlu Dyfed-Powys i wasanaethu a diogelu ein cymunedau.”
Ewch i www.panelheddluathroseddudp.cymru i gael rhagor o wybodaeth am y Panel, ei aelodaeth, dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol, agendâu a dolenni gweddarlledu, yn ogystal â chyflwyno cwestiynau i'r Panel eu rhoi gerbron y Comisiynydd.
