Storm Goretti
Diweddariad
Er bod yr amodau'n well na'r disgwyl ar draws Sir Gâr y bore 'ma, mae rhai amodau anodd yn ardaloedd gogleddol y sir, ac mae criwiau ar eu ffordd i glirio'r lluwchfeydd eira ar ffyrdd yn ardal Llanllwni, yn ogystal â delio â cheisiadau mewn ardaloedd trafferthus eraill.
Bydd graeanu ffyrdd yn parhau yn unol â'r rhagolygon cyfredol.
Casgliadau gwastraff a Chanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref – Dydd Gwener 9 Ionawr
Mae criwiau allan heddiw yn cwblhau'r llwybrau arferol ac yn gweithio i ddal i fyny ar gasgliadau a oedd heb eu casglu. Bydd y gwaith yn parhau heno, ac mae disgwyl i rai criwiau fod allan yfory (10 Ionawr), os bydd yr amodau'n caniatáu.
Efallai y bydd rhywfaint o darfu yn parhau mewn rhai ardaloedd oherwydd amodau anodd parhaus.
Gadewch eich bagiau allan i’w casglu. Byddwn yn ceisio eu casglu cyn gynted â phosibl.
Mae pob Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor heddiw. Cynghorir trigolion os ydynt am deithio eu bod yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain.
Diweddariad tywydd
Mae ein timau dal yn paratoi ar gyfer y tywydd heriol sy'n cael ei ragweld ar hyn o bryd, ac mae'r eira'n dechrau disgyn mewn rhannau o'r sir. Gydol y dydd heddiw mae ein gweithwyr wedi bod yn graeanu'r ffyrdd, yn ail-lenwi blychau graean, ac yn graeanu rhai mannau trafferthus â llaw.
Bydd y graeanu'n parhau ar y ffyrdd drwy'r nos, gan gyflawni'r gwaith yn ôl y rhagolygon. Mae aelodau ychwanegol o griwiau ac erydr eira hefyd yn barod i ddelio ag amodau heriol.
Mae paratoadau hefyd wedi'u gwneud i ni barhau i ddarparu gofal hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau gan ein Gofalwyr Cartref a Nyrsys Cymunedol.
Oherwydd y rhagolygon, bydd rhai Canolfannau Dydd ar gau yfory.
Efallai fydd tarfu ar wasanaethau eraill os bydd hynny'n anorfod oherwydd y tywydd.
O gofio'r rhagolygon, peidiwch â theithio heno oni bai fod hynny'n hollol angenrheidiol.
Gallwch chi roi gwybod am berygl, gan gynnwys ceisiadau am ail-lenwi biniau graean, ar ein gwefan.
Rhoi gwybod am beryglon y gaeaf
Mae gennyn ni 13 o safleoedd monitro tywydd ar y ffyrdd ar draws y sir, ac mae gan bob un gamerâu sefydlog sy'n diweddaru bob 10 munud. Gall y delweddau helpu i asesu amodau presennol y ffyrdd ac ar gyfer cynllunio teithiau.
Camerâu Tywydd ar Ochr y Ffordd
Ar gyfer materion y tu allan i oriau, cysylltwch â Llesiant Delta drwy'r ffurflen argyfwng ar-lein. Bydd ceisiadau yn cael eu monitro a bydd camau yn cael eu cymryd drwy gydol y cyfnod y tu allan i oriau - neu ffoniwch 0300 3332222.
Canolfannau Dydd
Oherwydd rhagolygon y tywydd, bydd y Canolfannau Dydd canlynol ar gau yfory (dydd Gwener 9 Ionawr):
- Canolfan Ddydd Cartref Cynnes, Tre Ioan, Caerfyrddin
- Canolfan Ddydd Cwmaman, y Garnant, Rhydaman
- Cyfleoedd Dydd Rhydaman, Rhydaman
- Cyfleoedd Dydd Caerfyrddin, Tre Ioan, Caerfyrddin
- Hwb Sgiliau, Cross Hands
Mae Rheolwyr Gwasanaeth yn cysylltu â'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau a'u teuluoedd ac mae teuluoedd a gweithwyr cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i atebion eraill os oes angen.
Mannau cynnes
Mae yna fannau cynnes ar draws Sir Gaerfyrddin lle gall preswylwyr alw heibio a chadw'n gynnes yn ystod misoedd oerach y gaeaf.
Gall yr oriau agor newid yn ystod tywydd garw. Cofiwch wirio cyn i chi deithio.
Diweddariad tywydd
Rhybudd tywydd – Rhybuddion tywydd oren a melyn am eira
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion tywydd Oren a Melyn am eira, ac mae disgwyl gwyntoedd cryfion hefyd, a allai gael effaith sylweddol ar rannau o Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys Llanymddyfri, heddiw ac yfory (dydd Gwener 9 Ionawr).
Mae ein timau priffyrdd wedi bod wrthi drwy'r dydd yn paratoi ar gyfer y tywydd garw. Ymysg pethau eraill, maen nhw wedi bod yn graeanu'r prif lwybrau ffordd gan ystyried y rhagolygon, yn ail-lenwi biniau graean, ac yn graeanu â llaw lle bo'r angen. Mae criwiau ychwanegol wrth law, ac mae'r erydr eira ar gael os bydd angen. Bydd y paratoadau'n parhau gyda'r hwyr ac i'r oriau mân.
Byddwn ni'n parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy ein sianeli swyddogol wrth i'r sefyllfa ddatblygu.
Gallwch hefyd gofrestru i gael diweddariadau trwy ein llythyr newyddion.
Cymorth digartrefedd
Gall ein tîm Dewisiadau Tai roi cymorth i unrhyw un sy'n ddigartref, ynghyd â chynnal gwiriadau llesiant rheolaidd.
Os bydd rhywun heb le i aros heno, cysylltwch â'n Hwb Tai drwy ffonio 01554 899389 yn ystod oriau swyddfa neu cysylltwch â Llesiant Delta y tu allan i oriau drwy ffonio 0300 3332222 neu drwy eu ffurflen argyfwng ar-lein.
Rhybudd tywydd – Rhybuddion tywydd oren a melyn am eira
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r rhybuddion tywydd canlynol ar gyfer yfory (dydd Iau 8 Ionawr)
Rhybudd oren am eira o 8pm yfory ar gyfer rhannau o Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys Llanymddyfri
Rhybudd melyn am eira i Sir Gaerfyrddin o 6pm yfory tan hanner dydd ddydd Gwener
Mae ein criwiau yn gweithio drwy gydol y dydd heddiw, gan raeanu llwybrau angenrheidiol ar sail y rhagolygon, llenwi blychau graean a graeanu rhai ardaloedd â llaw. Bydd y gwaith paratoi ar gyfer rhagolygon nos yfory yn parhau drwy gydol y dydd yfory.
Byddwn ni'n parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy ein sianeli swyddogol wrth i'r sefyllfa ddatblygu.
Gallwch chi roi gwybod am berygl, gan gynnwys ceisiadau am ail-lenwi biniau graean, ar ein gwefan - Rhoi gwybod am beryglon y gaeaf
Mwy o wybodaeth am waith graeanu
Mae gennyn ni 13 o safleoedd monitro tywydd ar y ffyrdd ar draws y sir, ac mae gan bob un gamerâu sefydlog sy'n diweddaru bob 10 munud. Gall y delweddau helpu i asesu amodau presennol y ffyrdd ac ar gyfer cynllunio teithiau.
Camerâu Tywydd ar Ochr y Ffordd
Cofiwch yrru yn ôl y tywydd gan leihau eich cyflymder, cadw pellter diogel rhyngoch chi a cherbydau eraill a gadael digon o amser ar gyfer eich taith.
Ar gyfer materion y tu allan i oriau, cysylltwch â Llesiant Delta drwy'r ffurflen argyfwng ar-lein. Bydd ceisiadau yn cael eu monitro a bydd camau yn cael eu cymryd drwy gydol y cyfnod y tu allan i oriau - https://llesiantdelta.org.uk/argyfwng-tu-allan-i-oriau/ neu ffoniwch 0300 3332222.
