Rhybudd o eira ac ia

22 awr yn ôl

Diweddariad ar Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref – Dydd Mercher 7 Ionawr

Mae pob Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor heddiw, heblaw Hendy-gwyn ar Daf, sydd ar gau fel arfer ar ddydd Mercher.

Caiff trigolion eu cynghori i deithio ar eu menter eu hunain. 

Diweddariad am wasanaethau – casgliadau gwastraff 7 Ionawr

Mae criwiau allan heddiw yn cwblhau'r llwybrau arferol ac yn gweithio i ddal i fyny ar gasgliadau a oedd heb eu casglu ddydd Llun a dydd Mawrth. Mae criwiau ychwanegol hefyd yn helpu gyda'r gwaith hwn cyn gynted â phosibl, os bydd yr amodau'n caniatáu.

Oherwydd yr amodau anodd a pharhaus a bod criwiau'n gweithio gyda cherbydau trwm a pheiriannau ac o'u hamgylch, a hefyd ynghanol traffig mae hyn yn peri risgiau ychwanegol yn yr amodau hyn, gall rhywfaint o darfu barhau wrth i'r casgliadau gael eu cwblhau.

Ewch i'r dudalen tarfu ar gasgliadau am y wybodaeth ddiweddaraf. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.

Cau Ysgolion

Oherwydd amodau anodd parhaus, efallai y bydd rhai ysgolion ar gau eto heddiw. Cofiwch wirio cyn ichi deithio.

Mae gwybodaeth am darfu ar ysgolion yn cael ei diweddaru gan ysgolion unigol ac ar gael ar ein gwefan.

Diweddariad tywydd

Mae ein criwiau wedi bod allan trwy gydol y dydd yn graeanu prif lwybrau a llwybrau eilaidd yn ogystal â llenwi biniau graeanu, graeanu rhai ardaloedd â llaw a chlirio llwybrau mwy gwledig. Bydd criwiau hefyd allan yn graeanu rhai llwybrau yn ddiweddarach heno oherwydd tymheredd isel arwyneb y ffordd, unwaith y bydd y glaw a ragwelir wedi pasio.

Mwy o wybodaeth am weithgaredd graeanu  

Byddwn ni'n parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw darfu ar wasanaethau ar adran Newyddion ein gwefan.

Mae gennym 13 o safleoedd monitro tywydd ar y ffyrdd ar draws y Sir, pob un â chamerâu sefydlog sy'n diweddaru bob 10 munud. Gall y delweddau helpu i asesu amodau presennol y ffyrdd ac ar gyfer cynllunio teithiau -

Camerâu Tywydd ar Ochr y Ffordd

Cofiwch yrru yn ôl yr amodau ar y ffordd gan leihau eich cyflymder, cadw pellter diogel rhyngoch a cherbydau eraill a gadael digon o amser ar gyfer eich taith.

Gallwch roi gwybod am unrhyw achosion brys tu allan i oriau ar wefan Llesiant Delta neu ffoniwch 0300 3332222.

Casgliadau gwastraff wedi'u hatal – 6 Ionawr 2026

Mae'r holl gasgliadau gwastraff sydd wedi'u trefnu ar gyfer heddiw wedi'u hatal i sicrhau diogelwch ein criwiau, sy'n gweithio gyda cherbydau a pheiriannau trwm ac ymysg traffig byw, sy'n peri risgiau ychwanegol yn yr amodau hyn.

Oherwydd yr amodau tywydd heriol ac amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth, nid yw'n ddiogel i gasgliadau gwastraff barhau ar hyn o bryd. Rydyn ni'n deall bod yna wastraff sydd heb ei gasglu, ac rydyn ni'n gwerthfawrogi eich amynedd a'ch dealltwriaeth.

Mae disgwyl i amodau tywydd wella yfory, ac rydyn ni'n ymdrechu i ailddechrau casgliadau fel arfer am weddill yr wythnos, gyda chriwiau yn gweithio i glirio unrhyw wastraff sydd heb ei gasglu, os bydd yr amodau yn caniatáu.  Cadwch lygad ar ein tudalen am ddiweddariadau pellach.

Cau Ysgolion

Mae pob ysgol ar gau ar hyn o bryd. Mae'r wybodaeth am gau ysgolion yn cael ei diweddaru gan bob ysgol ac mae’r ysgolion wedi'u rhestru ar ein gwefan. 

Diweddariad ar Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref - Dydd Mawrth 6 Ionawr

Mae Canolfan Ailgylchu Trostre ar agor fel arfer heddiw.

Mae Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Wernddu a Nantycaws, yn ogystal â Chanolfan Eto, ar gau, fel sy'n arfer digwydd ar ddydd Mawrth.

Mae Canolfan Ailgylchu Hendy-gwyn ar Daf yn cael ei graeanu ar hyn o bryd ac nid yw ar agor eto.  Rydyn ni'n gobeithio y bydd yn agor nes ymlaen heddiw, ond gofynnwn i bobl osgoi mynd yno'r bore yma.

Canolfannau Dydd

Mae pob canolfan ddydd yn parhau i fod ar gau oherwydd problemau yn ymwneud â thrafnidiaeth yn dilyn y tywydd garw.

Mae Rheolwyr Gwasanaeth yn cysylltu â'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau a'u teuluoedd ac mae teuluoedd a gweithwyr cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i atebion eraill os oes angen.

Byddwn ni'n edrych ar y sefyllfa eto yfory ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau a'u teuluoedd. 

Mae hyn yn cynnwys

  • Canolfan Ddydd Cartref Cynnes, Tre Ioan, Caerfyrddin
  • Canolfan Ddydd Cwmaman, y Garnant, Rhydaman
  • Canolfan Ddydd Plas y Môr, Porth Tywyn 
  • Cyfleoedd Dydd Maeslliedi, Llanelli
  • Cyfleoedd Dydd Coleshill, Llanelli
  • Cyfleoedd Dydd Caemaen, Llanelli
  • Cyfleoedd Dydd Rhydaman, Rhydaman
  • Cyfleoedd Dydd Caerfyrddin, Tre Ioan, Caerfyrddin
  • Hwb Sgiliau, Cross Hands

Ysgolion ar gau

Mae rhai ysgolion Sir Gaerfyrddin ar gau.

Gwiriwch gydag ysgol eich plentyn cyn teithio y bore 'ma.

Mae gwybodaeth am unrhyw ysgolion sydd ar gau yn cael ei rhoi gan yr ysgolion a'i nodi ar ein gwefan.

Diweddariad tywydd

Mae rhybudd melyn am eira a rhew yn parhau i fod mewn grym tan 11am yfory.

Mae ein criwiau wedi gweithio trwy gydol y dydd heddiw, yn trin y prif ffyrdd, yn llenwi biniau graean ac yn graeanu mannau â llaw yn ôl yr angen. Bydd gwaith graeanu pellach o'r prif ffyrdd yn cael ei wneud am 6pm heno, hanner nos a 4am bore fory.

Mae'r rhagolygon yn dangos y bydd yr amodau yn debygol o fod yn anodd eto bore fory, felly gwiriwch cyn i chi deithio.

Gallwch chi weld ein llwybrau graeanu ar ein gwefan 

Mae gennym 13 o safleoedd monitro tywydd ar y ffyrdd ar draws y Sir, pob un â chamerâu sefydlog sy'n diweddaru bob 10 munud. Gall y delweddau helpu i asesu amodau presennol y ffyrdd ac ar gyfer cynllunio teithiau.

Camerâu Tywydd ar Ochr y Ffordd

Cofiwch yrru yn ôl yr amodau ar y ffordd gan leihau eich cyflymder, cadw pellter diogel rhyngoch a cherbydau eraill a gadael digon o amser ar gyfer eich taith.

Gallwch roi gwybod am unrhyw achosion brys tu allan i oriau ar wefan Llesiant Delta neu ffoniwch 0300 3332222.

Diweddariad am gasgliadau gwastraff ac ailgylchu

Oherwydd y tywydd garw, cafodd casgliadau dydd Llun eu gohirio. Dyma'r amserlen newydd:

Bagiau du a gwydr:  Casgliadau un diwrnod yn hwyrach yr wythnos hon. Bydd casgliadau dydd Llun yn dechrau ddydd Mawrth, gan ddilyn y drefn honno drwy'r wythnos, gyda chasgliadau dydd Gwener nawr ddydd Sadwrn.

Bagiau glas a gwastraff bwyd: Ein bwriad yw ailddechrau casgliadau fel arferol fory, os bydd y tywydd yn caniatáu.  Os na chasglwyd eich gwastraff heddiw (dydd Llun 5 Ionawr), rhowch eich bagiau glas allan ddydd Llun nesaf (12 Ionawr). Bydd criwiau hefyd yn dychwelyd yr wythnos hon i gasglu unrhyw ddeunydd ailgylchu o ddydd Gwener a dydd Sadwrn diwethaf.

Gwastraff hylendid/cewynnau: Bydd casgliadau'n parhau ar y diwrnodau arferol lle bo'r amodau'n caniatáu. Bydd criwiau'n dal i fyny â'r casgliadau a gollwyd ddydd Llun yn ystod yr wythnos.

Gwastraff swmpus: Byddwn yn cysylltu â'r rheiny yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol i aildrefnu.

*Bydd casgliadau'n digwydd lle bo'r amodau'n ddiogel, a gall y trefniadau newid os bydd y tywydd garw'n parhau.

I gael rhagor o wybodaeth a diweddariadau, ewch i'r dudalen tarfu ar gasgliadau.

Graenu

Amodau anodd a thymheredd isel yn parhau. Mae ein criwiau wedi bod allan trwy gydol y penwythnos a neithiwr, yn gweithio mewn shifftiau i wneud gwaith graeanu parhaus.
Mae hyn yn cynnwys 15 o lorïau graeanu yn trin dros 1,000km o gefnffyrdd a phrif lwybrau ledled y sir, gan ddefnyddio bron i 150 tunnell o halen 5 gwaith bob 24 awr. Mae'r gwaith hwn yn parhau y bore yma, gyda'r ffocws yn parhau ar brif lwybrau er mwyn helpu i gadw'r prif rwydwaith i symud mewn amodau anodd wrth i eira barhau i ddisgyn mewn rhai ardaloedd o'r sir.

Rhagor o wybodaeth am lwybrau graeanu

Canolfannau Dydd

Mae pob Canolfan Ddydd ar gau ar hyn o bryd oherwydd problemau yn ymwneud â thrafnidiaeth yn dilyn y tywydd garw.

Mae Rheolwyr Gwasanaeth yn cysylltu â'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau a'u teuluoedd ac mae teuluoedd a gweithwyr cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i atebion eraill os oes angen.

Byddwn ni'n edrych ar y sefyllfa eto yfory ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau a'u teuluoedd. 

Mae hyn yn cynnwys

  • Canolfan Ddydd Cartref Cynnes, Tre Ioan, Caerfyrddin
  • Canolfan Ddydd Cwmaman, y Garnant, Rhydaman
  • Canolfan Ddydd Plas y Môr, Porth Tywyn 
  • Cyfleoedd Dydd Maeslliedi, Llanelli
  • Cyfleoedd Dydd Coleshill, Llanelli
  • Cyfleoedd Dydd Caemaen, Llanelli
  • Cyfleoedd Dydd Rhydaman, Rhydaman
  • Cyfleoedd Dydd Caerfyrddin, Tre Ioan, Caerfyrddin
  • Hwb Sgiliau, Cross Hands

Gofal cartref

Mae ein Gofalwyr Cartref yn ceisio cyrraedd defnyddwyr gwasanaeth cyn gynted â phosibl a byddan nhw'n cysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd yn uniongyrchol os oes unrhyw broblemau.

Diweddariad am wasanaethau – casgliadau gwastraff a Chanolfannau Ailgylchu

Mae'r holl gasgliadau gwastraff wedi'u hatal heddiw oherwydd amodau peryglus y tywydd i'n criwiau. A fyddech cystal â mynd â'r holl gynwysyddion a bagiau yn ôl.

Mae'r holl ganolfannau ailgylchu hefyd AR GAU heddiw oherwydd y tywydd.

Bydd ein tîm gweithrediadau yn ailasesu'r sefyllfa yfory, a bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhannu cyn gynted â phosibl.

Canolfannau hamdden

Mae ein canolfannau hamdden ar agor heddiw, ond gall eira a rhew effeithio ar ffyrdd a meysydd parcio. Eich diogelwch chi sy'n dod gyntaf — teithiwch dim ond os yw'n ddiogel ac yn gyfleus i chi.
 
Gwiriwch yr ap cyn teithio i sicrhau bod dosbarthiadau / gweithgareddau'n dal i fynd ymlaen, gan y gallai'r amodau effeithio ar rai staff.

Camerâu Tywydd ar Ochr y Ffordd

Mae gennym 13 o safleoedd monitro tywydd ar y ffyrdd ar draws y Sir, pob un â chamerâu sefydlog sy'n diweddaru bob 10 munud. Gall y delweddau helpu i asesu amodau presennol y ffyrdd ac ar gyfer cynllunio teithiau.

Camerâu Tywydd ar Ochr y Ffordd

Tywydd y Gaeaf

Cyn dechrau ar eich siwrnai, meddyliwch am sut y gallai tywydd difrifol effeithio arnoch.

Gwybodaeth a chyngor am dywydd gaeafol

Ysgolion ar gau

Mae rhai ysgolion Sir Gaerfyrddin ar gau.

Gwiriwch gydag ysgol eich plentyn cyn teithio y bore 'ma.

Mae gwybodaeth am unrhyw ysgolion sydd ar gau yn cael ei rhoi gan yr ysgolion a'i nodi ar ein gwefan.