Rhaglen Mannau Cynnes i gefnogi trigolion Sir Gaerfyrddin y gaeaf hwn
10 awr yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o gadarnhau y bydd ystod eang o fannau diogel a chynnes ar gael ledled y sir y gaeaf hwn, gan gynnig lle croesawgar, hygyrch a diogel i drigolion yn ystod y misoedd oerach.
Drwy Gronfa Mannau Diogel a Chynnes Llywodraeth Cymru, mae grwpiau cymunedol lleol wedi cael eu cefnogi i ddarparu mannau cynnes ledled Sir Gaerfyrddin, gan roi cyfle i bobl gadw'n gynnes, cwrdd ag eraill, cymryd rhan mewn gweithgareddau a mwynhau cysuron syml fel diod poeth a byrbryd. Bydd mentrau a ariennir ar waith drwy gydol y gaeaf, ac mae'n ofynnol i weithgareddau gael eu cwblhau erbyn 16 Mawrth 2026.
Gall y gaeaf fod yn gyfnod arbennig o anodd i lawer o bobl, gyda thywydd oerach, mwy o arwahanrwydd a phwysau costau byw parhaus yn effeithio ar aelwydydd ac unigolion. Nod y rhaglen Mannau Cynnes yw helpu i leddfu rhai o'r pwysau hyn drwy ddarparu cymorth cymunedol cynhwysol yn ystod misoedd anoddaf y flwyddyn.
Mae mannau cynnes yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a chyfleusterau yn dibynnu ar anghenion lleol. Mae’r rhain yn cynnwys: sesiynau cymdeithasol a chreadigol fel crefftau, clybiau darllen a gemau bwrdd, gweithgareddau corfforol ysgafn gan gynnwys ioga cadair a tai chi, sesiynau coginio, dosbarthiadau Cymraeg ac, mewn rhai lleoliadau, defnydd o Wi-Fi a chyfleusterau gwefru.
Mae pob man cynnes hefyd wedi derbyn cyllid i ddarparu lluniaeth fel y gall ymwelwyr fwynhau diod boeth a byrbryd. Yn ogystal, bydd yr holl fannau a ariennir yn cynnal gweithdai a gyflwynir gan dimau Cyngor Sir Caerfyrddin, gan gynnwys Gwasanaethau Ymgynghori Hwb ac Actif, gan ddarparu mynediad at gyngor, gwybodaeth a chymorth.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Schiavone, Aelod Cabinet dros Gartrefi Cyngor Sir Caerfyrddin:
Mae Mannau Cynnes yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ein cymunedau yn ystod misoedd y gaeaf. Maen nhw'n ymwneud â llawer mwy na chadw'n gynnes - maen nhw'n cynnig cysylltiad, cwmnïaeth a gweithgareddau a chefnogaeth a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i lesiant pobl. Rydym yn ddiolchgar i'r grwpiau cymunedol a'r gwirfoddolwyr sy'n helpu i ddarparu'r mannau croesawgar hyn ar draws Sir Gaerfyrddin, a byddem yn annog trigolion i'w defnyddio y gaeaf hwn."
Mae rhestr lawn o fannau cynnes, gan gynnwys lleoliadau a diwrnodau ac amseroedd agor, ar gael drwy'r ddolen ganlynol Mannau Cynnes - Cyngor Sir Caerfyrddin
