Lansio ymgynghoriadau ar gynigion i ad-drefnu'r ddarpariaeth ysgolion cynradd yn Ysgol Meidrim ac Ysgol Y Fro

2 diwrnod yn ôl

Mae cyfnod ymgynghori ffurfiol wedi dechrau heddiw (dydd Gwener, 16 Ionawr 2026) i gasglu barn ar ad-drefnu'r ddarpariaeth ysgolion cynradd yn Sir Gaerfyrddin fel rhan o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg. Mae'r cynigion yn cynnwys cau Ysgol Meidrim ac Ysgol Y Fro.

Mae'r cyfnod ymgynghori yn rhoi cyfle i rieni, athrawon, llywodraethwyr ysgolion a'r gymuned ehangach ddweud eu dweud ar y cynigion. 

Wedi'i nodi yn Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg y cytunwyd arni ym mis Tachwedd 2024 yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus, mae'r ysgolion arfaethedig wedi'u clustnodi o dan yr ymarfer ail-fodelu, ar sail y meini prawf canlynol:

  • Nifer y disgyblion yn eithriadol o isel
  • Nifer fawr o lefydd gwag a nifer fawr o'r disgyblion sy'n byw o fewn y dalgylchoedd yn mynychu ysgolion eraill
  • Amcanestyniadau yn awgrymu nad yw'n debygol o gwbwl bydd nifer y disgyblion yn cynyddu'n ddigonol
  • Diffyg yn y gyllideb neu ragweld diffyg yn y gyllideb o fewn y flwyddyn ariannol nesaf, gan arwain at sefyllfa ariannol anghynaladwy
  • Costau adnewyddu anghynaladwy oherwydd oedran yr adeiladau

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg, y Cynghorydd Glynog Davies: 

Mae'n fwriad gan Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg i ail-fodelu addysg yn Sir Gaerfyrddin yn gynaliadwy, tra'n sicrhau darpariaeth gytbwys i ddisgyblion ledled y sir.

Byddai'r cynigion hyn yn helpu i fynd i'r afael â'r amgylchiadau heriol sy'n wynebu ysgolion unigol a'r system ysgolion ehangach. Mae'r rheiny'n cynnwys ysgolion yn gweithredu gyda niferoedd disgyblion llawer is na'r capasiti a fwriadwyd, a sefyllfaoedd ariannol anghynaladwy."

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Llun, 2 Mawrth 2026. Gellir cyflwyno ymatebion ar-lein drwy wefan y Cyngor, drwy e-bost neu yn ysgrifenedig at:
Mr Owain Lloyd
Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden, 
Neuadd y Sir,
Rhiw'r Castell 
Caerfyrddin, 
SA31 1JP.

Cafodd Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg ei llunio yn dilyn ymgynghoriad, er mwyn ffurfio rhaglen buddsoddi a threfniadaeth ysgolion yn unol â Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.