Dweud eich dweud am gynllun y Cyngor i fynd i'r afael â phwysau ar y gyllideb
6 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, fel pob awdurdod lleol ar draws Cymru, yn wynebu penderfyniadau anodd wrth gynllunio ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn wynebu diffyg o £25 miliwn yn ei gyllideb ddrafft am 2026/27.
Mae dros dri chwarter o gyllideb refeniw net y Cyngor, sy'n ariannu gwasanaethau hanfodol o ddydd i ddydd fel gofal cymdeithasol ac addysg, yn dod o grantiau gan Lywodraeth Cymru, sydd yn ei dro yn cael grant bloc blynyddol gan Lywodraeth y DU.
Dim ond 17% o incwm y Cyngor sy'n dod o'r Dreth Gyngor.
Ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin i gymryd rhan yn ei Ymgynghoriad ynghylch y Gyllideb ar gyfer 2026/27.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar 24 Tachwedd 2025 y byddai Sir Gaerfyrddin yn derbyn cynnydd o 2.3% yn y setliad cyllid dros dro. I helpu i lenwi'r bwlch hwn mae'r Cyngor wedi clustnodi arbedion o dros £9.5 miliwn ar draws ei wasanaethau, ac wedi defnyddio arbediad cylchol o £5 miliwn o'i gyfraniad fel cyflogwr i Gronfa Bensiwn Dyfed. Fodd bynnag, er gwaethaf cynnydd arfaethedig o 6.5% yn y Dreth Gyngor, mae'r Cyngor yn parhau i wynebu diffyg o £3.5 miliwn yn ei gyllideb ddrafft am 2026/27.
Paratowyd y ffigurau hyn cyn y cytundeb ar y gyllideb rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru ar 9 Rhagfyr 2025, a allai arwain at gynnydd cyffredinol o 4.1% yng nghyllideb Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd y Senedd yn pleidleisio ar y cytundeb ar 20 Ionawr 2026. Hyd nes y bydd y sefyllfa ariannu derfynol yn cael ei gadarnhau, mae'r Cyngor yn ymgynghori â'i breswylwyr yn seiliedig ar y setliad dros dro cychwynnol o 2.3%.
Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i bennu cyllideb gytbwys yn flynyddol, gan sicrhau bod incwm o ffynonellau megis y Grant Cynnal Refeniw, y Dreth Gyngor, grantiau a gwasanaethau y telir amdanynt yn ddigon i dalu am ei wariant.
Y llynedd bu i'r Cyngor wneud gostyngiadau o fwy na £8 miliwn, gan gynnwys arbedion mewn meysydd megis trafnidiaeth addysg, cyfleusterau cyhoeddus, a rhai gwasanaethau diwylliannol a hamdden. Gan adeiladu ar y gwaith hwn, mae'r Cyngor bellach yn cynnig arbedion pellach o £9.5 miliwn mewn arbedion gweithredol ar gyfer 2026/27.
Mae'r arbedion arfaethedig yn canolbwyntio ar wasanaethau gan gynnwys Gwasanaethau Integredig, Gwasanaethau i Oedolion, Gwasanaethau Plant a Seilwaith Amgylcheddol. Mae'r rhain yn cynnwys ehangu gwasanaethau gofal mewnol, cefnogi preswylwyr i fod yn fwy annibynnol lle bo hynny'n bosibl, ehangu ei rhaglen Teuluoedd Gyda'n Gilydd i atal yr angen am roi plant yng ngofal yr awdurdod lleol, cynyddu'r ddarpariaeth maethu leol a nodi effeithlonrwydd ar draws priffyrdd a gwasanaethau trafnidiaeth.
Yn ogystal â'r arbedion adrannol, mae'r gostyngiad mewn cyfraniadau cyflogwr gan Gronfa Bensiwn Dyfed o gymorth mawr i sefyllfa gyllidebol y Cyngor. Mae perfformiad buddsoddi cryf wedi galluogi'r Gronfa i leihau cyfradd cyfraniadau cyflogwr y Cyngor o 16.2% i 12.5% rhwng Ebrill 2026 a Mawrth 2029. Mae hyn yn cyflawni arbediad rheolaidd o £5 miliwn, heb golli gwasanaethau, heb golli swyddi a heb effeithio ar fudd-daliadau pensiwn.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adnoddau:
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, fel pob awdurdod lleol ledled Cymru, yn wynebu penderfyniadau cyllidebol anodd iawn oherwydd ffactorau y tu allan i'n rheolaeth i raddau helaeth, gan gynnwys chwyddiant, setliadau cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol a lefel y cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r galw cynyddol am wasanaethau'r cyngor hefyd yn rhoi pwysau sylweddol ar ein cyllid. Mae hyn yn cael effaith arbennig ar ofal cymdeithasol, gyda phoblogaeth gynyddol o bobl dros 75 yn rhoi mwy o bwysau ar y Gwasanaethau Oedolion, ynghyd â chostau uwch am ofal a gomisiynir, cynnydd yng nghyflog byw y Living Wage Foundation a'r cap ar gyfraniadau cleientiaid.
Hefyd mae'r Gwasanaethau Plant yn wynebu pwysau mawr, gan fod rhagor o blant angen lleoliadau preswyl arbenigol a chan fod cyfraddau talu uwch ar gyfer maethu ac anghenion cynyddol o ran cymhlethdod yn ychwanegu at gostau.
Mae effaith ar addysg yn yr un modd, drwy orwariant ysgolion, chwyddiant, codiadau cyflog, yn ogystal â lefelau cynyddol o gymhlethdod ac angen ymhlith plant a phobl ifanc, gan gynnwys Anghenion Dysgu Ychwanegol, Addysg Ddewisol yn y Cartref, presenoldeb ac ymddygiad.
Ar sail setliad dros dro cychwynnol Llywodraeth Cymru o 2.3%, rydyn ni'n parhau i wynebu diffyg sylweddol yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, er gwaethaf nodi £9.5 miliwn o arbedion gweithredol ar gyfer 2026/27. Dyna pam mae'n bwysig bod ein preswylwyr, ein hymwelwyr a'n rhanddeiliaid yn dweud eu dweud ar sut rydyn ni'n lenwi'r bwlch ariannol hwn. Er bod y Cyngor yn gweithio'n galed i reoli'r pwysau hyn, mae ein sefyllfa ariannol yn para'n hynod heriol."
Mae'r Cyngor yn gwahodd preswylwyr, busnesau a sefydliadau cymunedol a gwirfoddol i ddweud eu dweud ar arbedion arfaethedig yn y gyllideb ar gyfer 2026/27. Bydd adborth a gyflwynir drwy'r ymgynghoriad yn cael ei ystyried gan gynghorwyr fel rhan o'r broses o osod y gyllideb yn derfynol.
Bydd y Cynghorwyr yn ystyried y farn a fynegir yn yr ymgynghoriad hwn, ochr yn ochr â chynigion gweithredol, gwerth hyd at tua £9.5 miliwn pan gaiff y gyllideb ei chymeradwyo'n derfynol gan y Cyngor Llawn ym mis Mawrth 2026.
Gall pobl rannu eu barn ar-lein neu drwy ymweld â hwb gwasanaethau cwsmeriaid y cyngor yng nghanol trefi Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman.
Rydyn ni'n cynnal sesiynau wyneb yn wyneb ym mhob un o'n Canolfannau Hwb. Bydd swyddogion wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych:
- Hwb Llanelli – Dydd Llun, Ionawr 26 (2pm-4pm)
- Hwb Caerfyrddin – Dydd Mawrth, Ionawr 27 (2pm-4pm)
- Hwb Rhydaman – Dydd Mercher, Ionawr 28 (2pm-4pm)
Gallwch chi ofyn am gopïau papur o'r ymgynghoriad yng Nghanolfannau Hwb Rhydaman, Caerfyrddin neu Lanelli neu drwy Hwb Bach y Wlad.
Mae'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb yn dod i ben ar 1 Chwefror 2026.
