Disgyblion ysgolion uwchradd Sir Gaerfyrddin yn rhoi eu barn ar gyllideb y Cyngor
2 awr yn ôl
Mae timau o saith ysgol uwchradd ledled Sir Gaerfyrddin wedi rhannu eu barn ar y cynigion yng nghyllideb y Cyngor fel rhan o'r digwyddiad Golwg Sir Gâr a drefnwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar 22 Ionawr 2026.
Mae digwyddiad blynyddol Golwg Sir Gâr y Cyngor yn agored i bob ysgol uwchradd yn y sir yn ogystal â Choleg Sir Gâr. Mae'r digwyddiad yn rhoi cyfle i ddisgyblion gamu i rôl aelodau Cabinet y Cyngor a rhoi eu barn ar y cynlluniau arfaethedig ar gyfer y gyllideb.
Nod y digwyddiad yw cyflwyno pobl ifanc i lywodraeth leol a rhoi cipolwg iddynt ar yr heriau a wynebir o ddydd i ddydd. Mae hefyd yn rhoi cyfle i Aelodau'r Cabinet glywed barn disgyblion yn uniongyrchol a thrafod y materion sydd bwysicaf iddynt.
Roedd timau o ddisgyblion o flynyddoedd 9–13 Ysgol Maes y Gwendraeth, Ysgol Bro Dinefwr, Ysgol y Strade, Ysgol St John Lloyd, Ysgol Dyffryn Aman, Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth ac Ysgol Bro Myrddin wedi cymryd rhan. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin.
Cyflwynwyd eu canfyddiadau i'r Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd y Cyngor, Wendy Walters, y Prif Weithredwr; Aelodau'r Cabinet ac uwch-swyddogion yn Siambr y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:
Mae digwyddiadau fel Golwg Sir Gâr yn ein hatgoffa pa mor werthfawr yw safbwyntiau pobl ifanc. Roedd y trafodaethau’n ystyriol, yn adeiladol ac yn dangos dealltwriaeth wirioneddol o'r heriau sy'n ein hwynebu fel Cyngor. Hoffwn ddiolch i bawb a fu'n cymryd rhan am eu hamser a'u hymrwymiad.”
