Cynigion i wella goleuadau traffig Halfway yn Llanelli (A4138)
28 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penodi AtkinsRéalis i ddatblygu'r dyluniad ar gyfer gwelliannau i Oleuadau Traffig Halfway yn Llanelli ar hyd Teras Glyncoed/Heol Llandafen.
Mae'r gwelliannau'n hanfodol i fynd i'r afael â'r heriau trafnidiaeth presennol, megis tagfeydd yn ystod cyfnodau brig, diogelwch ac oedi o ran darparu Seilwaith Teithio Llesol.
Cyn y dyluniad manwl sydd i fod i ddechrau ym mlwyddyn ariannol 2026/2027 (yn amodol ar gymeradwyaeth a chyllid gan Lywodraeth Cymru), mae'r Cyngor ac AtkinsRéalis yn gofyn am farn a syniadau trigolion ar sut y dylid datblygu'r gyffordd â goleuadau (a seilwaith trafnidiaeth cysylltiedig).
Bydd y cynigion yn cael eu harddangos mewn digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd a gynhelir yn The Halfway Pub ddydd Iau 5 Chwefror 2026 rhwng 2pm a 7:30pm, gan roi cyfle i drigolion weld y cynlluniau a rhoi adborth.
Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Caerfyrddin ac AtkinsRéalis yn bresennol i drafod ac ateb unrhyw ymholiadau am y cynllun.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am y cynigion drafft a'r arolwg ar-lein.
Mae'r ymgynghoriad yn cau ddydd Gwener 27 Chwefror 2026.
Mae copïau papur o'r arolwg hefyd ar gael o'r Hwb yn Llanelli.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y Cynghorydd Edward Thomas:
Rydyn ni'n annog trigolion a'r gymuned ehangach i ddweud eu dweud ar y broses ddylunio ar gyfer gwelliannau i oleuadau traffig Halfway i sicrhau bod unrhyw welliannau yn y dyfodol yn darparu ffordd ymlaen sy’n gynaliadwy.”
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at dîm y prosiect - halfwayjunction@atkinsrealis.com
