Cyngor yn cyflwyno Hysbysiad Statudol i ail-lunio'r ddarpariaeth feithrin yn Rhydaman
7 diwrnod yn ôl
Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ystyried cynigion i ail-lunio'r ddarpariaeth feithrin yn Rhydaman, yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus.
Bydd Hysbysiad Statudol yn cael ei gyflwyno ddydd Mawrth 10 Chwefror ar gyfer cau Ysgol Feithrin Rhydaman ac ymestyn yr ystod oedran yn Ysgol Bro Banw ac Ysgol Gymraeg Rhydaman o 4-11 i 3-11 oed.
Byddai'r cynigion hyn yn helpu i ddarparu addysg fwy cytbwys ar draws Sir Gaerfyrddin, gan mai Ysgol Feithrin Rhydaman yw'r unig ysgol feithrin a gynhelir gan y Cyngor yn y sir.
Bydd cyfle i rieni, athrawon, llywodraethwyr ysgol, a chymuned ehangach yr ysgol gael dweud eu dweud fel rhan o gyfnod yr hysbysiad statudol, unwaith y bydd wedi dechrau.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg, y Cynghorydd Glynog Davies:
Bydd y cynnig i ail-lunio'r ddarpariaeth addysg feithrin yn Rhydaman yn galluogi'r Cyngor Sir i roi darpariaeth fwy cytbwys drwy ddarparu addysg feithrin yn Ysgol Bro Banw ac Ysgol Gymraeg Rhydaman."
Daw'r cynigion hyn yn dilyn penderfyniad gan Gabinet y Cyngor ym mis Mawrth 2024 i ddileu'r polisi "Plant sy'n Codi'n 4 oed" o 1 Medi 2025, sy'n golygu bod plant yn hytrach yn dechrau addysg amser llawn ar ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed
