Cyngor yn cyflwyno hysbysiad statudol ar gynigion i newid ystod oedran pedair ysgol gynradd

7 diwrnod yn ôl

Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ystyried ymatebion i gynigion i newid ystod oedran pedair ysgol gynradd o 4-11 i 3-11 oed.

Bydd y cynigion nawr yn mynd rhagddynt, a chaiff hysbysiad statudol ei gyflwyno i Ysgol Y Ddwylan, Ysgol Cwrt Henri, Ysgol Gymraeg Y Tymbl ac Ysgol Llanybydder ddydd Mawrth 10 Chwefror 2026.

Os cânt eu cymeradwyo, bydd y newidiadau'n caniatáu i blant o dair oed gael mynediad at addysg feithrin ran-amser wedi'i hariannu mewn ardaloedd lle mae'r ddarpariaeth bresennol yn brin.

Bydd cyfle i rieni, athrawon, llywodraethwyr ysgol, a chymuned ehangach yr ysgol gael dweud eu dweud fel rhan o gyfnod yr hysbysiad statudol, unwaith y bydd wedi dechrau.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg, y Cynghorydd Glynog Davies: 

Mae'r cynnig hwn yn cael ei groesawu a bydd yn galluogi Cyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu addysg fwy cytbwys ar draws y sir. Bydd hyn yn ategu'r cymorth gofal plant presennol, ac mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn dangos bod y cynigion hyn yn ffafriol."

Daw'r cynigion hyn yn dilyn penderfyniad gan Gabinet y Cyngor ym mis Mawrth 2024 i ddileu'r polisi "Plant sy'n Codi'n 4 oed" o 1 Medi 2025, sy'n golygu bod plant yn hytrach yn dechrau addysg amser llawn ar ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed.