Cyfle i ddweud eich dweud am gynllun rhanbarthol newydd ar gyfer cartrefi, swyddi a buddsoddiad

9 awr yn ôl

Rydym am glywed eich barn am gynllun tymor hir a fydd yn arwain lle y dylai cartrefi, swyddi, isadeiledd a buddsoddiad mawr gael eu cyflwyno ar draws Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Abertawe a Bannau Brycheiniog dros y 25 i 30 mlynedd nesaf.

Mae hyn yn dilyn Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn cymeradwyo ymgynghoriad ar Gytundeb Cyflawni Drafft ar gyfer Cynllun Datblygu Strategol rhanbarthol.

Bydd y cynllun yn rhoi cyfle i breswylwyr, cymunedau a sefydliadau helpu i lunio sut mae'r rhanbarth yn tyfu ac yn datblygu yn y dyfodol. Gall pobl gyflwyno adborth yma erbyn 5pm ddydd Gwener 20 Chwefror, 2026.

Bydd y Cynllun Datblygu Strategol yn darparu ymagwedd gydlynol at gynllunio ar draws De-orllewin Cymru. Ei nod yw mynd i'r afael â materion sydd y tu hwnt i ffiniau awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol unigol fel anghenion tai, patrymau teithio i'r gwaith, ardaloedd cyfle economaidd a chyflawni prosiectau isadeiledd mawr.

Mae'r Cytundeb Cyflawni Drafft yn nodi sut y bydd y Cynllun Datblygu Strategol yn cael ei baratoi, sut a phryd y gall preswylwyr a chymunedau gymryd rhan, yr adnoddau y mae eu hangen i'w gyflawni ac amserlen glir ar gyfer gweithredu'r cynllun.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru,

Dyma'r man cychwyn ar gyfer sgwrs wirioneddol bwysig am ddyfodol De-orllewin Cymru.
Mae'r Cynllun Datblygu Strategol yn ymwneud â mabwysiadu ymagwedd gydlynol a thymor hir tuag at sut mae ein rhanbarth yn tyfu, gan wneud yn siŵr bod cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu yn y lleoedd cywir, bod swyddi o ansawdd da yn cael eu cefnogi, a bod buddsoddiad mewn trafnidiaeth ac isadeiledd yn cyflwyno'r budd mwyaf i'n cymunedau.
Drwy ymgynghori ar y Cytundeb Cyflawni Drafft, rydym yn glir ynghylch sut y bydd y cynllun yn cael ei baratoi a sut y gall pobl gymryd rhan.
Byddwn yn annog preswylwyr, busnesau, grwpiau cymunedol a phartneriaid ledled y rhanbarth i gymryd rhan i helpu i lunio cynllun a fydd yn arwain datblygiad a buddsoddiad am ddegawdau i ddod."

Meddai'r Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot,

Mae'r Cynllun Datblygu Strategol yn gyfle pwysig i edrych ar yr heriau a'r cyfleoedd ehangach a rhanbarthol rydym yn eu hwynebu, gan barhau i adlewyrchu anghenion ein cymunedau unigol.
Drwy weithio gyda'n gilydd ar draws ffiniau awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol, gallwn gynllunio'n fwy effeithiol ar gyfer tai, swyddi, trafnidiaeth ac isadeiledd mewn ffordd sy'n cefnogi twf cynaliadwy a ffyniant tymor hir. "

Bydd y Cynllun Datblygu Strategol yn sail i'r cynlluniau datblygu lleol i ddarparu fframwaith rhanbarthol cyson, wrth ganiatáu i awdurdodau lleol barhau i ganolbwyntio ar gyflawni ar lefel leol. 

Bydd adborth ar y Cytundeb Cyflawni Drafft yn cael ei ystyried cyn i'r ddogfen gael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w chymeradwyo.