Bwriad i gau ffordd y B4310 i'r de o Felin-gwm Isaf ar gyfer gwaith brys hanfodol
9 diwrnod yn ôl
Bydd ffordd y B4310 i'r de o Felin-gwm Isaf yn cael ei chau er mwyn gwneud gwaith diogelwch hanfodol.
Oherwydd oedi a achoswyd gan yr amodau tywydd diweddar, bydd y ffordd bellach yn cael ei chau o ddydd Llun 12 Ionawr 2026, a disgwylir iddi fod ar gau am oddeutu wyth wythnos.
Yn ystod archwiliad diweddar o arglawdd y ffordd, nodwyd mater diogelwch difrifol sy'n effeithio ar y strwythur sy'n cefnogi'r briffordd. Heb gymryd camau, gallai cyflwr yr arglawdd waethygu a pheri risg i ddefnyddwyr y ffordd. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae angen gwneud gwaith atgyweirio hanfodol i sefydlogi'r arglawdd a sicrhau diogelwch hirdymor y ffordd. Bydd y gwaith yn cynnwys adeiladu wal gynnal 160 metr ar hyd y darn yr effeithir arno.
Oherwydd tywydd garw yn ddiweddar, gan gynnwys eira a rhew, cafodd gwaith priffyrdd cynlluniedig ei ohirio wrth i ni ddelio â materion brys ar draws y rhwydwaith ffyrdd ehangach. O ganlyniad, mae'r ffordd yn cael ei chau wythnos yn ddiweddarach.
Er mwyn helpu i leihau tarfu i breswylwyr a busnesau lleol, bydd y ffordd yn cael ei chau yn ystod yr wythnos waith ond bydd yn ailagor rhwng 3.30pm ddydd Gwener ac 8.00am ddydd Llun drwy gydol y gwaith.
Bydd llwybr dargyfeirio ag arwyddion ar waith, fydd yn addas i bob cerbyd gan gynnwys cerbydau nwyddau trwm. Mae trefniadau ar gyfer cludiant ysgol wedi'u rhannu ag ysgolion a gweithredwyr bysiau i sicrhau y gall disgyblion barhau i deithio'n ddiogel pan fydd y ffordd ar gau.
Mewn ymateb i adborth gan fusnesau lleol, mae arwyddion "Busnesau Ar Agor Fel Arfer" wedi'u gosod a chaniateir mynediad lle bynnag y bo modd. Bwriad cadw'r ffordd ar agor dros y penwythnos yw cefnogi masnach leol yn ystod cyfnod y gwaith.
Bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhannu drwy sianeli cyfathrebu'r Cyngor, ynghyd â chyfres o gwestiyna cyffredin er mwyn rhoi gwybodaeth ychwanegol i breswylwyr, busnesau a defnyddwyr y ffordd.
Yn dilyn asesiad geodechnegol o arglawdd y ffordd ar hyd y B4310 i'r de o Felin-gwm Isaf, mae diffyg diogelwch hanfodol wedi'i nodi. Mae'r arglawdd yn darparu cefnogaeth strwythurol i'r ffordd, ac mae difrod iddo yn golygu y gallai'r briffordd ddod yn anniogel os na chymerir unrhyw gamau.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae angen gwneud gwaith atgyweirio brys i sefydlogi'r arglawdd a sicrhau diogelwch hirdymor y ffordd. Mae'r gwaith arfaethedig yn cynnwys adeiladu wal gynnal 160 metr, ynghyd â gwaith tir a draenio cysylltiedig.
Mae'r holl waith yn cael ei wneud yn unol â rheoliadau'r System Waith Diogel. Disgwylir i'r ffordd fod ar gau am oddeutu wyth wythnos i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau'n ddiogel ac yn effeithlon.
Mae lleoliad y gwaith yn gyfyngedig iawn, ac nid oes llawer o le rhwng y ffordd ac arglawdd serth. Nid oes digon o le i weithwyr, peiriannau neu ddeunyddiau weithredu'n ddiogel tra bod traffig yn parhau i ddefnyddio'r ffordd.
Mae angen peiriannau mawr a cherbydau dosbarthu concrit ar gyfer y wal gynnal, ac ni ellir gosod neu ddadlwytho'r rhain yn ddiogel heb gau'r ffordd. Felly, mae angen cau'r ffordd yn llawn i ddiogelu'r gweithlu a defnyddwyr y ffordd.
Er bod yna lwybrau eraill sy'n addas i geir a cherbydau llai, rhaid bod y dargyfeiriad swyddogol yn addas i bob cerbyd, gan gynnwys cerbydau nwyddau trwm.
Y llwybr dargyfeirio ag arwyddion ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r de-orllewin fydd teithio tua'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain ar hyd y B4310 drwy Abergorlech hyd at y gyffordd â'r B4337. Troi i'r dde a pharhau tua'r de-ddwyrain ac wedyn tua'r de ar hyd y B4337 hyd at y gyffordd â'r A40. Wrth y gyffordd, troi i'r dde a pharhau tua'r de-orllewin ar hyd yr A40 hyd at y gylchfan. Wrth y gylchfan, cymryd y drydedd allanfa a pharhau ar hyd yr A40 drwy Dderwen-fawr a Llanegwad hyd at y gyffordd â'r B4310. Troi i'r dde i ailymuno â'r B4310 i'r de o'r man lle mae'r ffordd ar gau.
I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r gogledd.
Bydd arwyddion clir yn cael eu gosod ar hyd y llwybr dargyfeirio.
Mae'r trefniadau canlynol wedi'u rhannu gydag ysgolion a gweithredwyr bysiau:
- Bydd y gwasanaeth C07 yn gweithredu gan ddefnyddio coets midi llai o Abergorlech i Felin-gwm Isaf a bydd yn dargyfeirio traffig drwy Bontargothi i Ysgol Bro Myrddin ac Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth. Bydd ail goets midi yn cychwyn o Nantgaredig (gyferbyn â Phlas y Pant) ac yn gweithredu drwy Nantgaredig a Chapel Dewi i Ysgol Bro Myrddin ac Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth.
- Bydd y gwasanaeth H37 o Abergorlech i Ysgol Gynradd Nantgaredig yn gweithredu i Felin-gwm Isaf fel arfer ac yn dargyfeirio drwy Bontargothi.
Mewn ymateb i adborth gan fusnesau a phreswylwyr lleol, bydd y ffordd yn ailagor bob penwythnos, rhwng 3.30pm ddydd Gwener ac 8.00am ddydd Llun, drwy gydol y gwaith. Bwriad hyn yw cefnogi masnachu dros y penwythnos a lleihau tarfu.
Mae arwyddion "Busnesau Ar Agor Fel Arfer" wedi'u gosod, a chaniateir mynediad lle bynnag y bo modd. Bydd y gwaith hefyd yn helpu i ddiogelu mynediad hirdymor i fusnesau ac eiddo lleol drwy wella diogelwch a sefydlogrwydd y ffordd.
