Arddangosfa Briodasau gyntaf Sir Gâr yn llwyddiant ysgubol

2 diwrnod yn ôl

Roedd Arddangosfa Briodasau gyntaf Sir Gâr, a gynhaliwyd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, yn llwyddiant ysgubol gan ddenu dros 100 o bobl o bob rhan o sector priodasau'r sir.

Croesawodd y digwyddiad berchnogion lleoliadau, darparwyr llety a chyflenwyr priodasau, gan adlewyrchu diwydiant lleol cytbwys cryf.

Cafodd brecwast busnes ysbrydoledig ei gynnal yn Nhŷ Melyn ar ddechrau'r digwyddiad, a gafodd ei drefnu gan dîm Datblygu Twristiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin a'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Rhoddodd y siaradwr gwadd Tomas Philips, cyd-sylfaenydd Blackline Academy, brif araith ar gydweithio a thwf busnes tuag at 2026, gan osod tôn uchelgeisiol ar gyfer y diwrnod.

Cymerodd mwy na 40 o arddangoswyr ran yn yr arddangosfa ar gyfer busnesau, a oedd hefyd yn cynnwys gweithdai arloesol ar y cyfryngau cymdeithasol, deallusrwydd artiffisial a chreu cynnwys fideo. Roedd y sesiynau hyn yn rhoi gwybodaeth ymarferol i helpu busnesau i wella eu presenoldeb digidol a diogelu eu gweithrediadau at y dyfodol.

Roedd Cofrestryddion a Gweinyddion Sir Gâr wrth law drwy gydol y digwyddiad, gan sbarduno trafodaethau gwerthfawr ac annog cydweithio agosach ar draws y sector. Rhoddodd hyn gyfle i'r rhai oedd yn bresennol wneud nifer o gysylltiadau newydd, archwilio cyfleoedd partneriaeth a gadael gyda hyder newydd yn yr hyn sydd ar gael o ran priodasau yn y sir.

Hefyd, yn y digwyddiad cafodd cyfeiriadur ar-lein newydd o fusnesau priodasau Sir Gâr ei lansio, gan gefnogi cyflenwyr lleol a helpu i gadw gwariant priodasau yn y sir.

Mae'r arddangosfa yn rhan o ymgyrch dwristiaeth ehangach Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n hyrwyddo'r sir fel y lle mwyaf rhamantus yng Nghymru ac mae'n gam pwysig wrth gryfhau cydweithio a thwf ar draws y diwydiant priodasau lleol.

Dywedodd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Mae llwyddiant Arddangosfa Briodasau gyntaf Sir Gâr yn tynnu sylw at gryfder a chreadigrwydd diwydiant priodasau Sir Gâr. Cafodd grym cydweithio ei ddangos drwy ddod â lleoliadau, darparwyr llety, cyflenwyr, a chofrestryddion at ei gilydd, ac mae cysylltiadau a syniadau newydd eisoes yn dod i'r amlwg.  Mae'r digwyddiad yn gam pwysig wrth gefnogi busnesau lleol a chryfhau enw da Sir Gâr fel un o'r lleoedd gorau yng Nghymru i briodi."