Agoriad swyddogol Canolfan Brianne - canolfan trochi yn y Gymraeg yn Ysgol Bro Dinefwr

1 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi agor Canolfan Brianne yn swyddogol sef canolfan trochi yn y Gymraeg yn Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo - yr ail gyfleuster trochi pwrpasol yn y sir. Gan adeiladu ar lwyddiant Canolfan Gwên, mae'r ganolfan newydd yn nodi cam mawr arall wrth ehangu cyfleoedd dysgu Cymraeg i blant

Bydd y ganolfan newydd yn cynnig profiad trochi dwys i ddisgyblion oedran cynradd sy'n newydd i addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd yn helpu dysgwyr i feithrin hyder a rhuglder yn y Gymraeg mewn amgylchedd cynhwysol sy'n eu hannog, a'u galluogi i gael mynediad at  ysgolion cyfrwng Cymraeg a ffynnu. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysgol Bro Dinefwr i ddod â'r ddarpariaeth newydd hon i'r gymuned a chryfhau cyfleoedd lleol ar gyfer dysgu Cymraeg.

Mae'r datblygiad hwn yn gam ymlaen i hyrwyddo nodau Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y sir. Drwy ehangu mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, bydd y ganolfan yn chwarae rhan allweddol wrth helpu teuluoedd i ddewis dyfodol dwyieithog i'w plant.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg:

Mae lansio Canolfan Drochi Brianne yn garreg filltir bwysig yn ein huchelgais i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Sir Gaerfyrddin. Mae cefnogi plant i gaffael y Gymraeg yn gynnar, yn hyderus ac yn yr amgylchedd cywir yn hanfodol os ydym am dyfu'r defnydd o'r iaith a chyflawni'r nodau a nodir yn ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. 
Mae'r ganolfan hon yn dangos ein hymrwymiad hirdymor i adeiladu dyfodol dwyieithog a chryfhau rôl y Gymraeg ym mywyd ein cymunedau.”