Y Cyngor yn parhau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn tai sy'n eiddo i'r Cyngor a chymunedau
3 diwrnod yn ôl
Mae Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn darparu amrywiaeth eang o gymorth i denantiaid, trigolion a chymunedau, yn ogystal â chymryd camau ffurfiol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled y sir.
Yn ddiweddar, mae'r tîm wedi sicrhau pedwar gorchymyn cau (gorchymyn cyfreithiol sy'n gwahardd unigolion rhag cael mynediad i adeiladau am gyfnod penodol) i ddiogelu trigolion agored i niwed a lleihau tarfu difrifol mewn cymunedau. Mae hyn yn cynnwys diogelu unigolion rhag camfanteisio sy'n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau, gan ddiogelu trigolion sy'n agored i niwed ac atal aflonyddwch sylweddol a gafodd ei achosi gan denant a'u cysylltiadau yn ardal Sanclêr, Y Fan a Chlos Granby (Llanelli), Llys y Felin (Cydweli).
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd wedi cael meddiant ar ddau gartref sy'n eiddo i'r Cyngor yng Nghlos Granby, Llanelli a Maescader, Pencader oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol a difrod difrifol i eiddo.
Yn ystod y tri mis diwethaf, mae'r tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol hefyd wedi cyflwyno deg rhybudd/hysbysiad gwarchod y gymuned i unigolion sy'n achosi niwsans i gymdogion a'r gymuned ehangach. Gall methu â chydymffurfio â'r hysbysiadau hyn arwain at hysbysiadau cosb benodedig.
Yn ogystal â chymryd camau gorfodi ffurfiol, mae'r Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn parhau i gefnogi cymunedau drwy gynnal trafodaethau â'r rhai sy'n gysylltiedig â'r mater, cynnig cyfryngu a chyngor, cyflwyno llythyrau rhybudd neu rybuddion/hysbysiadau gwarchod y gymuned, a gweithio'n agos gyda Heddlu Dyfed-Powys i gynnal patrolau ar y cyd mewn ardaloedd problemus.
Nod Cyngor Sir Caerfyrddin yr cadw cymunedau'n ddiogel a datrys problemau'n gynnar drwy gyfathrebu, cymorth a chyfryngu, gan ddefnyddio camau gorfodi dim ond pan fo ymddygiad yn barhaus, yn ddifrifol neu'n niweidiol.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Schiavone, Aelod Cabinet dros Gartrefi Cyngor Sir Caerfyrddin:
"Mae'r canlyniadau hyn yn dangos yr effaith wirioneddol y mae ein tîm ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ei chael ar draws Sir Gaerfyrddin. Drwy gyfuno camau gorfodi cadarn â chymorth ystyrlon, maen nhw'n diogelu trigolion agored i niwed ac yn dangos yn glir na fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei oddef.”
I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor, ewch i wefan y Cyngor Ymddygiad gwrthgymdeithasol - Cyngor Sir Caerfyrddin
