Siopau sionc 100% Sir Gâr a marchnadoedd lleol yw'r lle perffaith i siopa y Nadolig hwn

2 diwrnod yn ôl

Ar ôl wythnos gyntaf lwyddiannus, mae cyfle o hyd i siopa'n lleol ac yn gynaliadwy drwy ymweld â siopau sionc Nadolig 100% Sir Gâr ym mis Rhagfyr eleni, yn ogystal â marchnadoedd dan do y sir yn Llanelli a Chaerfyrddin a marchnadoedd awyr agored yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman.

Yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig, gall ymwelwyr bori drwy amrywiaeth gwych o anrhegion artisan, addurniadau wedi'u gwneud â llaw, bwyd a diod lleol, crefftau, ffasiwn, a mwy yn siopau sionc Nadolig 100% Sir Gâr, a chefnogi cynhyrchwyr a masnachwyr annibynnol o bob rhan o Gymru ar yr un pryd.

Mae'r siopau sionc yn rhan o raglen 100% Sir Gâr Cyngor Sir Caerfyrddin ac maen nhw'n cael eu hariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Mae marchnadoedd Sir Gaerfyrddin hefyd yn parhau i chwarae rôl bwysig wrth gefnogi busnesau annibynnol, gan gynnig cyfle i fasnachwyr arddangos amrywiaeth eang o nwyddau, o gynnyrch ffres i eitemau wedi'u gwneud â llaw, gan gynnwys colur, nwyddau anifeiliaid anwes, ffrwythau a llysiau, esgidiau, cig, cawsiau, dillad, gwlân a nwyddau gwau, barbwyr/trin gwallt a llawer mwy. Mae'r marchnadoedd hefyd yn darparu mannau cymunedol gwerthfawr.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am farchnadoedd Sir Gaerfyrddin ar wefan y Cyngor Sir.

Fel rhan o'r dathliadau eleni, mae'r Cyngor hefyd yn cydnabod cyflawniadau rhai o'i fusnesau sydd wedi bod yn masnachu hiraf yn y marchnadoedd. Ar 13 Rhagfyr, bydd Peter a David Beale, tad a mab sy'n masnachu ym Marchnad Llanelli, yn nodi cerrig milltir arwyddocaol, sef 60 a 55 o flynyddoedd o redeg eu dwy stondin yn y farchnad.

Sefydlodd Peter Beale, sy’n wyneb cyfarwydd i genedlaethau o siopwyr, Beale's Linens 55 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r busnes yn parhau fel menter deuluol, ac mae ei fab, David, bellach yn chwarae rhan fawr yn y gwaith. Mae'r teulu hefyd yn rhedeg The Welsh Shop yn Rhodfa'r Farchnad, sy'n cynnig anrhegion a chynnyrch lleol sy'n dathlu hunaniaeth ddiwylliannol Cymru.

Mae'r busnesau hyn yn dangos y gwytnwch, y gwasanaeth personol a'r ysbryd cymunedol sy'n nodweddu masnachwyr marchnadoedd Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: