Newidiadau i gasgliadau biniau yn Sir Gaerfyrddin dros y Nadolig

3 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn atgoffa trigolion i wirio eu dyddiadau casglu gwastraff ac ailgylchu dros gyfnod yr ŵyl. Mae newidiadau wedi'u gwneud i sicrhau bod gwasanaethau'n rhedeg yn hwylus yn ystod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Dyma pryd y bydd eich biniau yn cael eu casglu dros y Nadolig:

Diwrnod casglu arferol

Newid diwrnod

Dydd Llun 22 Rhagfyr

Dydd Sul 21 Rhagfyr

Dydd Mawrth 23 Rhagfyr

Dydd Llun 22 Rhagfyr

Dydd Mercher 24 Rhagfyr

Dydd Mawrth 23 Rhagfyr

Dydd Iau 25 Rhagfyr

Dydd Mercher 24 Rhagfyr

Dydd Gwener 26 Rhagfyr

Dydd Sul 28 Rhagfyr

Dydd Llun 29 Rhagfyr

Dydd Llun 29 Rhagfyr

Dydd Mawrth 30 Rhagfyr

Dydd Mawrth 30 Rhagfyr

Dydd Mercher 31 Rhagfyr

Dydd Mercher 31 Rhagfyr

Dydd Iau 1 Ionawr

Dydd Gwener 2 Ionawr

Dydd Gwener 2 Ionawr

Dydd Sadwrn 3 Ionawr

 

Rhowch eich biniau mas erbyn 6am ar eich diwrnod casglu. Cofiwch yr uchafswm o dri bag du a golchwch a gwasgwch eich deunydd ailgylchu.

 

 Gwastraff hylendid a chewynnau

Bydd casgliadau ar gyfer gwastraff hylendid a chewynnau hefyd yn dilyn amserlen y Nadolig diwygiedig, felly gwiriwch eich diwrnod casglu wedi'i ddiweddaru.

 

Canolfannau Ailgylchu

Bydd yr holl safleoedd ar gau Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan a byddan nhw'n cau am hanner dydd ar Noswyl Nadolig a Nos Galan.

*Dydd Sul 21 a 28 Rhagfyr a dydd Sadwrn 3 Ionawr - Bydd Canolfannau Ailgylchu Trostre a Wernddu ar agor yn y prynhawn yn unig (12-4pm).  Bydd Hendy-gwyn ar Daf a Nantycaws ar agor eu horiau arferol ar y dyddiadau hyn.

 

Os oes unrhyw darfu, bydd diweddariadau yn cael eu postio ar y wefan ar ôl 2pm ar eich diwrnod casglu.

 

 Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Mae'r Nadolig yn amser i ddathlu, ac rydyn ni am wneud yn siŵr fod casgliadau gwastraff yn rhedeg yn hwylus fel y gall pawb fwynhau'r gwyliau heb boeni. Trwy ddilyn yr amserlen ddiwygiedig ac ailgylchu cymaint â phosibl, rydych chi'n ein helpu i gadw Sir Gaerfyrddin yn lân ac yn gynaliadwy. Diolch i chi am eich cymorth, ac hoffen ni ddymuno Nadolig llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.”