Dyn o Hendy-gwyn ar Daf yn euog o 17 trosedd yn ymwneud ag anifeiliaid fferm ac anifeiliaid domestig

3 diwrnod yn ôl

Mae gweithredwr fferm o Hendy-gwyn ar Daf wedi cael ei garcharu am 18 o wythnosau am gyflawni 17 o droseddau yn ymwneud ag anifeiliaid domestig ac amaethyddol. Mae hyn yn cynnwys achosi, caniatáu neu fethu ag atal dioddefaint diangen (Deddf Lles Anifeiliaid 2006) ac mae'n dilyn treial tri diwrnod yn Llys Ynadon Llanelli.

Hefyd cafodd Thomas Raymond Jones o Fferm Penygraig, Hendy-gwyn ar Daf, orchymyn i dalu £26,805.10 o gostau'r erlyniad yn llawn cyn pen 6 mis ynghyd â gordal o £154. Mae wedi cael gorchymyn anghymhwyso, sy'n ei wahardd rhag cadw a bod yn berchen ar anifeiliaid am 10 mlynedd, a gorchymyn amddifadedd sy'n tynnu pob anifail o'i reolaeth.

Cafwyd Mr Jones yn euog o'r holl droseddau nad oedd eisoes wedi pledio'n euog iddynt. Roedd y rhain yn ymwneud â'r modd roedd yn rheoli ac yn gofalu am wartheg a chŵn yn dilyn ymchwiliadau gan Dîm Lles Anifeiliaid Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Cafodd hyn ei gychwyn gan gŵyn ddienw ynglŷn â charcas buwch nad oedd wedi'i waredu'n briodol.

Yn ystod eu hymweliad ym mis Chwefror 2024, darganfu Swyddogion Iechyd Anifeiliaid fod gwartheg yn cael eu cadw mewn amodau byw gwael a oedd yn cynnwys porthiant anfwytadwy/o ansawdd gwael a dim llecynnau gorwedd sych. Hefyd roedd sawl un o'r anifeiliaid yn gloff ac roedd ganddynt garnau wedi gordyfu a chyflyrau croen. Nid oedd carcasau anifeiliaid wedi'u gwaredu'n briodol chwaith. 

Hefyd gwelwyd bod ci oedrannus yn byw mewn amodau anaddas, gan ei fod yn cael ei gadw mewn lloc bach, llawn mieri a sbwriel. Roedd y ci mewn cyflwr gwael ac roedd angen sylw milfeddygol arno ar unwaith a gafodd ei drefnu gan y tîm. Aeth elusen anifeiliaid leol i gasglu'r ci. 

Yn dilyn archwiliad milfeddygol, nodwyd bod y ci dan bwysau ac yn ddall â chataractau dwyochrog aeddfed. Hefyd roedd ei ewinedd wedi gordyfu ac roedd yn dioddef o brolaps pidynnol yn ogystal â chyflyrau eraill. Oherwydd lefel y dioddefaint, penderfynwyd rhoi'r ci i gysgu.

Yn dilyn yr ymweliad, cafodd Hysbysiad Gwella a Hysbysiad Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid eu cyflwyno a oedd yn mynnu bod Mr Jones yn cael gwared ar garcas buwch mewn sied ac yn gwella amodau.

Wrth ddychwelyd 9 diwrnod yn ddiweddarach, nodwyd nad oedd gwelliannau digonol wedi'u gwneud yn unol â'r Hysbysiad, nad oedd unrhyw sylw milfeddygol wedi'i geisio ar gyfer y gwartheg cloff/â chyflyrau croen ac nad oedd gweddillion anifeiliaid wedi cael eu clirio'n iawn. Roedd Mr Jones wedi ceisio trin y gwartheg ei hun ac wedi trefnu i dorrwr carnau ymweld â'r fferm, ond roedd y cynhyrchion a ddefnyddiwyd yn ymddangos yn hen a nodwyd yn yr Hysbysiad Gwella bod sylw milfeddygol yn ofynnol. Hefyd cafwyd hyd i fuwch feichiog gloff yn byw mewn amodau anaddas.

Yn dilyn ymweliad gan filfeddyg Mr Jones ac Arolygiaeth Wledig Cymru, cafwyd hyd i nifer o wartheg heb dagiau clust, heb eu cofrestru'n briodol neu heb eu cofrestru o gwbl. Gan fod cynifer o bethau o'i le, gosododd Arolygiaeth Wledig Cymru gyfyngiad buches gyfan ar Fferm Penygraig nes bod modd datrys y materion. Nodwyd hefyd bod chwe buwch yn denau a bod dwy yn denau iawn.

Bron i bum wythnos yn ddiweddarach, cafwyd cwynion pellach am garcas llo nad oedd wedi cael ei waredu'n briodol.

Roedd Swyddogion Iechyd Anifeiliaid wedi ymweld â Fferm Penygraig yn flaenorol yn 2022, yn dilyn cwynion nad oedd carcasau anifeiliaid yn cael eu gwaredu'n briodol. Yn ystod yr ymweliad gwelodd swyddogion hefyd wartheg yn cael eu cadw mewn amodau gwael, gwartheg heb dagiau ac anifeiliaid heb eu cofrestru yn ogystal â throseddau sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Cafodd hysbysiadau/rhybuddion eu cyflwyno i Mr Jones i wella arferion. Yna cafodd yr un troseddau eu cyflawni yn 2024.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Les Anifeiliaid:

Rwy'n falch bod gwaith caled Tîm Lles Anifeiliaid Cyngor Sir Caerfyrddin unwaith eto wedi sicrhau canlyniad cadarnhaol o ran yr achos hwn. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn atgoffa pawb y byddwn ni bob amser yn hyrwyddo lles anifeiliaid da ac yn dal y rhai nad ydyn nhw'n gwneud hynny yn atebol am eu gweithredoedd.”