Diweddariad ar fesurau clo Ysgol Bro Myrddin

4 diwrnod yn ôl

Datganiad gan Heddlu Dyfed Powys

Mae ymholiadau ynglŷn â bygythiadau yn erbyn disgybl yn Ysgol Bro Myrddin, brynhawn Mercher (10/12/25) yn parhau.

Gweithredwyd mesurau llwyrgloi a chynhaliwyd chwiliad gan yr heddlu yn yr ysgol. Cafodd y mesurau llwyrgloi eu codi yn ddiweddarach a gadawodd y myfyrwyr yr ysgol yn ddiogel.

Cafodd dyn 17 oed o Sir Gaerfyrddin ei arestio ar amheuaeth o fygythiadau i ladd ac ar hyn o bryd mae'n parhau i fod yn nalfa'r heddlu.

Nid yw'r dyn yn fyfyriwr yn yr ysgol ac ni wnaed yr arestiad yn yr ysgol.

Mae'r ysgol ar agor fel arfer, ond bydd yr heddlu yn bresennol fel mesur rhagofal i roi sicrwydd a chefnogaeth i ddisgyblion a staff.

Diweddariad ar fesurau clo Ysgol Bro Myrddin

Er mwyn sicrhau diogelwch disgyblion a staff, cafodd Ysgol Bro Myrddin ei rhoi dan fesurau clo fel mesur rhagofalus y prynhawn yma yn dilyn cyngor gan Heddlu Dyfed-Powys.

Cafodd gweithdrefnau diogelu eu rhoi ar waith yn gyflym ac yn effeithiol gan staff yr ysgol wrth i’r heddlu ymdrin â’r mater. Mae'r mesurau clo bellach wedi dod i ben a bydd yr ysgol ar agor fel arfer yfory, ond bydd presenoldeb rhagofalus gan yr heddlu i roi sicrwydd a chefnogaeth i ddisgyblion a staff.

Mae ymholiadau'r heddlu yn parhau, felly byddai'n amhriodol gwneud sylwadau pellach ar hyn o bryd.