Cyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn am gymorth cyhoeddus i adnabod unigolion yn dilyn troseddau'n ymwneud â baw cŵn
1 diwrnod yn ôl
Diweddariad - yn dilyn yr apêl hon, mae un o'r unigolion wedi'i adnabod ac mae'r llun o'r unigolyn wedi cael ei ddileu.
Mae baw cŵn yn annymunol iawn ac yn berygl i iechyd y cyhoedd gan effeithio ar ein cymunedau. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn galw ar drigolion i helpu i adnabod unigolion sydd wedi cael eu dal ar deledu cylch cyfyng yn gadael baw eu cŵn ar lawr yng Nghaerfyrddin.
Digwyddodd hyn ar Heol Awst, ac mae lluniau'n dangos dau droseddwr ar wahân yn anwybyddu eu cyfrifoldeb i gadw ein strydoedd yn lân. Mae'r ymddygiad hwn yn annerbyniol ac yn tanseilio ymdrechion perchnogion cŵn cyfrifol.
Y gobaith yw y bydd preswylwyr yn gallu helpu i adnabod y ddau unigolyn.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Orfodi Materion Amgylcheddol:
Unwaith eto, rydyn ni'n gofyn i'r cyhoedd am help i adnabod unigolion nad ydyn nhw wedi codi baw eu cŵn.
Mae ein tîm Gorfodi Materion Amgylcheddol yn parhau i fod yn ymrwymedig i gymryd camau yn erbyn unrhyw un sy'n torri rheoliadau amgylcheddol yn Sir Gaerfyrddin, ac rwy'n annog y nifer fach o berchnogion cŵn nad ydyn yn codi baw eu cŵn i newid eu hymddygiad.”
Gallwch chi roi gwybod i ni ar ein gwefan neu ffonio 01267 234567.
Nodyn ar gyfer golygyddion: Mae'r wybodaeth hon yn cael ei datgelu o dan yr eithriad yn narpariaethau Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data yn Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 2 (1) (c) o Ddeddf Diogelu Data 2018 gan y byddai peidio â datgelu'r lluniau hyn yn niweidiol i'r pwrpas o ddal neu erlyn troseddwr.
