Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig hysbysebu cost-effeithiol ar gylchfannau i fusnesau lleol

1 diwrnod yn ôl

Mae busnesau lleol yn Sir Gaerfyrddin bellach yn cael y cyfle i hyrwyddo'u gwasanaethau drwy gynllun hysbysebu cost-effeithiol newydd sydd wedi'i lansio gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae'r Cyngor yn cynnig gofod hysbysebu ar gylchfannau dethol ledled y Sir, gan gynnwys ardaloedd lle mae llawer o draffig, yn nhref Caerfyrddin ac ardal Trostre Llanelli, sy'n cael eu gweld gan filoedd o yrwyr sy'n mynd drwy leoliadau allweddol bob dydd.

Wedi'i ddylunio a'i osod gan dîm mewnol y Cyngor, mae'r arwyddion yn cynnig ffordd syml, fforddiadwy ond effeithiol i fusnesau bach a chanolig godi eu proffil. Mae'r prisiau'n dechrau o £58 + TAW yr wythnos, gydag opsiynau talu debyd uniongyrchol misol hyblyg ar gael.

Nod y fenter hon yw cefnogi twf economaidd lleol wrth helpu i gynnal a gwella mannau cyhoeddus trwy bartneriaeth â busnesau lleol.

Old Oak Dental Practice yw'r busnes lleol cyntaf i fanteisio ar y cyfle gwych hwn i hysbysebu, ac mae ei arwyddion bellach yn cael eu harddangos ar un o gylchfannau prysuraf Sir Gaerfyrddin - cylchfannau Lôn Morfa a Heol Las yn nhref Caerfyrddin.

Dywedodd Adam Llywellyn, perchennog a deintydd yn Old Oak Dental Practice:

Yn Old Oak Dental Practice, rydyn ni'n credu mewn mwy na gwenau iach yn unig - rydyn ni'n credu mewn cefnogi'r gymuned sy'n gwneud y gwenau hynny'n bosibl. Mae ein hysbysebion ar gylchfannau yn symbol o'n hymrwymiad hirdymor i Gaerfyrddin: gan fuddsoddi yn nhwf, llesiant a bywyd bob dydd y dref.”

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Rydyn ni'n falch o gynnig y cyfle newydd hwn i fusnesau lleol hyrwyddo eu hunain mewn lleoliadau allweddol ledled Sir Gaerfyrddin. Mae'r cynllun hwn nid yn unig yn darparu hysbysebu fforddiadwy ac effeithiol ond hefyd yn cefnogi ein hymrwymiad parhaus i feithrin economi leol fywiog. Rydyn ni'n annog busnesau i fanteisio ar y fenter hon i gysylltu â chwsmeriaid a thyfu eu presenoldeb yn y gymuned.”

I gael gwybod mwy neu i gofrestru eich diddordeb, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin yma neu e-bostiwch marchnatacyfryngau@sirgar.gov.uk.