Cyfle o hyd i gyfrannu at Apêl Teganau Nadolig y Cyngor

3 diwrnod yn ôl

Mae cyfle o hyd i gyfrannu at Apêl Teganau Nadolig Cyngor Sir Caerfyrddin 2025, sy'n helpu cannoedd o deuluoedd yn Sir Gâr nad ydyn nhw'n yn gallu fforddio prynu teganau neu anrhegion i'w plant.

Mae unigolion, busnesau, sefydliadau ac ysgolion o bob rhan o Sir Gâr unwaith eto wedi rhoi'n hael i'r apêl, ac mae Castell Howell, y cyfanwerthwr bwyd o Sir Gâr, wedi rhoi bariau siocled a blychau rhoddion ar gyfer pob plentyn addas yn ogystal â rhodd o £1,000. Roedd Cyngor Tref Llanelli hefyd wedi rhoi gwerth £1,750 o deganau.

Mae rhoddion hael eraill wedi'u rhoi neu eu casglu gan Glwb Ffermwyr Ifanc Llanddarog, Ysgol Llannon, Ysgol Gymraeg Rhydaman, Tesco, Ysgol Maes y Gwendraeth, Pwyllgor Neuadd Gymunedol Llandyfaelog, Morrisons yn Llanelli, Capel Bethesda yn y Tymbl, Capel Seion Dre-fach, Eglwys Sant Twrog yn Llanddarog, Clwb Rotari Llandeilo, Clwb Bowlio Mat Byr Llanddarog, Capel Peniel, Capel Moreia, Capel y Tabernacl Caerfyrddin, Merched y Wawr Llanddarog a Hendygwyn ar Daf, Swyddfa'r Urdd yng Nghaerfyrddin, Cynghorau Cymuned ar draws y sir ynghyd â chapeli'r Priordy, Heol Awst, Elim, Cana a Bancyfelin.  

Mae Ras Elusennol y Nadolig Dyffryn Aman hefyd yn cefnogi'r apêl eleni, ac mae rhoddion yn cael eu derbyn gan redwyr a cherddwyr sy'n cymryd rhan ar lwybrau gwahanol. Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Sul, 21 Rhagfyr 2025 am 9am o Faes Parcio Canolfan Waith Rhydaman.

Gallwch roi rhoddion ariannol ar-lein. Mae modd rhoi rhoddion ar ffurf arian parod neu siec dros y ffôn. Ffoniwch 07814 716380.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies-Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

Unwaith eto mae unigolion, busnesau a sefydliadau o bob rhan o Sir Gâr wedi dangos gwir haelioni gan roi rhoddion o deganau yn ogystal â chyfraniadau ariannol i'r Apêl Teganau Nadolig. Mae cyfle o hyd i unrhyw un sy'n dymuno rhoi rhodd, ac mae mannau cyflwyno rhoddion mewn gwahanol leoliadau ledled y sir. Diolch unwaith eto i bawb sydd wedi rhoi hyd yn hyn.”

Mae'r apêl yn derbyn eitemau newydd gan gynnwys gemau, eitemau celf a chrefft a phethau ymolchi ar gyfer pob oedran (18 mis hyd at bobl ifanc yn eu harddegau), a hynny mewn nifer o fannau casglu o amgylch y sir. Mae mannau cyflwyno rhoddion ledled y sir yn y lleoliadau canlynol:

  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin
  • Neuadd y Sir, Caerfyrddin
  • Tesco Caerfyrddin    
  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Llanelli
  • Tesco Llanelli
  • Morrisons, Caerfyrddin
  • Morrisons, Llanelli
  • Pentre Awel
  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Rhydaman
  • Canolfan Hamdden Dyffryn Aman
  • Hengwrt (Menter Dinefwr)
  • Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri
  • HWB Bach y Wlad (lleoliadau amrywiol, gallwch weld yr amserlen yma
  • Neuadd Mynyddygarreg
  • Amgueddfa Abergwili
  • Canolfan Gymunedol Cwmaman
  • JJ Motors, Cross Hands
  • Neuadd y Gwendraeth
  • Canolfan Hamdden Dyffryn Aman
  • Canolfan Hamdden Llanymddyfri
  • Canolfan Hamdden Caerfyrddin
  • Canolfan Hamdden Sanclêr
  • Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn

Yn anffodus, nid yw'r apêl yn gallu derbyn rhoddion wedi'u defnyddio neu rai ail-law, ond mae modd rhoi'r eitemau hyn i Eto, sef prosiect atgyweirio ac ailddefnyddio y Cyngor, yn un o'r canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.

Mae'r dasg o nodi teuluoedd a phlant sydd â'r angen mwyaf am gymorth gan yr Apêl Teganau Nadolig yn cael ei gwneud gan ysgolion, canolfannau teulu, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr ieuenctid. Yna bydd staff y Cyngor yn dosbarthu'r rhoddion yn y cyfnod cyn y Nadolig.