Côr o Sir Gâr yn disgleirio ar lwyfan Neuadd Albert

3 diwrnod yn ôl

Bu Côr Merched Sir Gâr o Wasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin yn perfformio ar lwyfan byd-enwog Neuadd Frenhinol Albert ar 24 Tachwedd, gan berfformio i gynulleidfa lawn fel rhan o’r gyngerdd Proms Music for Youth Cenedlaethol.

Cafodd y Côr wahoddiad i'r dathliad cenedlaethol hwn o dalentau cerddorol ifanc yn dilyn perfformiad gwych yn Neuadd Symffoni, Birmingham, ym mis Gorffennaf. 

Dan arweiniad Mrs Nia Clwyd, mae'r côr yn dod â disgyblion ysgol uwchradd talentog o bob rhan o Sir Gaerfyrddin at ei gilydd. Roedd perfformiad y côr yn Llundain yn nodi cyflawniad arwyddocaol arall i'r Gwasanaeth Cerdd, gan arddangos safon eithriadol addysg gerddorol a pherfformio yn y sir.

Dywedodd Owain Lloyd, Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin, a oedd yn y perfformiad:

Roedd y côr yn rhagorol ac wedi rhoi perfformiad proffesiynol iawn a swynodd y gynulleidfa. Fel llysgenhadon Sir Gâr a Chymru, rwy'n falch iawn ohonynt. Diolch unwaith eto i staff y Gwasanaeth Cerdd am eu gwaith caled ac ymroddiad.” 

Dywedodd Lleucu Brooker Davies disgybl o Ysgol Bro Myrddin a berfformiodd gyda'r côr:

Roedd yn gyfle gwych. Mae'r côr wedi gweithio'n galed iawn dros y misoedd diwethaf, ac roedd yr holl brofiad o berfformio yn Neuadd Albert yn fythgofiadwy. Diolch i bawb a wnaeth i hyn ddigwydd.”

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg:

Rydym yn hynod falch o Gôr Merched Sir Gâr am gynrychioli Sir Gâr mewn digwyddiad mor fawreddog. Mae eu hymroddiad, eu talent a'u proffesiynoldeb yn glod i'n hysgolion a'r Gwasanaeth Cerdd, ac maent wedi bod yn llysgenhadon rhagorol i'n sir a Chymru.”