Cefnogi preswylwyr gwledig Sir Gaerfyrddin y gaeaf hwn: Hwb Bach y Wlad a Bws Bach y Wlad yn dod ynghyd
1 diwrnod yn ôl
Mae cymunedau gwledig ledled Sir Gaerfyrddin yn elwa o'r bartneriaeth rhwng Hwb Bach y Wlad a Bws Bach y Wlad, dau wasanaeth hanfodol sy'n gweithio law yn llaw i gefnogi cymunedau gwledig ledled y sir.
Wedi'i lansio ym mis Ebrill 2024, cyflwynodd Bws Bach y Wlad wasanaeth bws newydd o bentref i bentref, gan weithredu yng nghyffiniau Llanybydder a Chastellnewydd Emlyn.
Mae'r gwasanaeth yn darparu gwasanaeth hanfodol i breswylwyr mewn cymunedau ynysig, gan wella mynediad at gyflogaeth, addysg, gofal iechyd a siopa. Mae'r bws, sydd yn rhedeg bum diwrnod yr wythnos, yn cynnig teithio fforddiadwy, gydag opsiynau am ddim ac am brisiau is, a phrisiau gostyngol i bobl ifanc. Mae amserlen ar gael i helpu teithwyr i gynllunio teithiau lleol yn haws ar draws y llwybr ar wefan y Cyngor.
Ers ei lansio ym mis Medi 2023, mae Hwb Bach y Wlad wedi gwneud 516 o ymweliadau ledled Sir Gaerfyrddin, gan gynorthwyo gyda dros 13,200 o ymholiadau. Mae mwy na 452 o breswylwyr eisoes wedi derbyn cymorth ariannol a llesiant trwy fenter Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi y cyngor.
Y gaeaf hwn, mae'r tîm Hwb yn gweithio'n agos gydag Adfer Energy a'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, gan sicrhau bod aelwydydd yn gallu aros yn gynnes ac yn iach yn ystod y misoedd oerach. Trwy gyfuno trafnidiaeth a chymorth cymunedol, mae preswylwyr nid yn unig yn cael gwell mynediad at wasanaethau hanfodol ond hefyd yn elwa o wneud y mwyaf o incwm, gwell llesiant cymdeithasol, a help i fynychu apwyntiadau hanfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:
Mae'r bartneriaeth rhwng Hwb Bach y Wlad a Bws Bach y Wlad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cymunedau gwledig. Wrth i'r gaeaf agosáu, mae'r gwasanaethau hyn yn bwysicach nag erioed er mwyn helpu preswylwyr i gadw mewn cysylltiad â'i gilydd, cael eu cefnogi a chadw'n gynnes. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl, waeth ble maen nhw'n byw."
Ble i ddod o hyd i Hwb Bach y Wlad
O fis Mai 2024 ymlaen, bydd y tîm Hwb ar gael yn y lleoliadau canlynol:
|
Clwb a Sefydliad Gweithwyr Cross Hands |
Dydd Gwener 1af a 3ydd dydd Gwener y mis - 10am-2pm |
|
Canolfan Cymunedol Cwmaman |
2il ddydd Gwener y mis - 10am-2pm |
|
Canolfan y Dywysoges Gwenllian, Cydweli |
2il ddydd Llun y mis - 10am-2pm |
|
Neuadd Goffa Talacharn |
2il ddydd Mercher y mis - 10am-2pm |
|
Neuadd Ddinesig Llandeilo |
Dydd Iau 1af a 3ydd dydd Iau y mis - 10am-2pm |
|
Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri |
3ydd dydd Mawrth y mis - 10am-2pm |
|
Clwb Rygbi Llanybydder |
3ydd dydd Mercher y mis - 10am-2pm |
|
Neuadd Cawdor Castellnewydd Emlyn |
Dydd Mercher 1af y mis - 10am-2pm |
|
Y Gât, Sanclêr |
2il ddydd Iau y mis, 10:30am–2pm |
|
Neuadd y Dref, Hendy-gwyn ar Daf |
Dydd Llun olaf y mis - 10am-2pm |
|
Pafiliwn Pencader |
Dydd Llun 1af y mis - 10am-2pm |
Gall preswylwyr wneud atgyfeiriad at Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi neu ffonio 01267 234567 am gymorth pellach.
