Byddwch yn greadigol y Nadolig hwn gyda Phrosiectau Cymunedol Sir Gâr

4 diwrnod yn ôl

Dros y Nadolig mae prosiectau cymunedol ar draws Sir Gâr yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau, y mae rhai ohonyn nhw wedi'u hariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU gyda chefnogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin.

Wrth i ni fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni am ddiolch a dathlu'r holl wirfoddolwyr sy'n helpu i ddod â phobl at ei gilydd. Mae'r Cyngor wedi cael £1.7 miliwn drwy Raglen Cymunedau Cynaliadwy Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU er mwyn cefnogi mentrau lleol sy'n cryfhau cymunedau, yn hyrwyddo cynaliadwyedd, ac yn gwella cyfleusterau ar draws y sir.

Mae'r Ganolfan SERO yng Nghaerfyrddin yn cynnal gweithdai a sesiynau atgyweirio sy'n canolbwyntio ar atgyweirio, ailddefnyddio ac ailgylchu eitemau. Mae eu siop sgrap yn cynnig deunyddiau i bobl sydd â diddordeb mewn ail-bwrpasu hen anrhegion neu wneud eu eitemau eu hunain y Nadolig hwn. I ddarganfod mwy am hyn ewch i: https://sero.org.uk/

Gan ddilyn y duedd, mae Pethau Pawb yn Llanymddyfri hefyd yn cynnal amrywiaeth o weithdai sy'n cynnig cyfleoedd i ddefnyddio'ch Cymraeg, cwrdd ag eraill, a gwneud anrheg Nadolig. Mae'r ganolfan hefyd yn darparu gwasanaeth 'Llyfrgell Pethau' lle gellir llogi offer ar gyfer gwaith DIY a thasgau yn y cartref yn y flwyddyn newydd. I ddarganfod mwy am hyn ewch i: https://pethaupawb.ynnisirgar.org

Mae Neuadd Gyhoeddus a Sinema Brynaman, sydd wedi bod yn gwasanaethu'r gymuned ers bron i 100 mlynedd, wedi gosod sgrin sinema ac offer llwyfan newydd yn ddiweddar gyda chyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Gall y lleoliad nawr gynnal digwyddiadau byw ychwanegol a bydd yn cyflwyno pantomeim Nadolig traddodiadol, Mother Goose ddydd Sul, 21 Rhagfyr. I ddarganfod mwy am hyn ewch i: https://brynammancinema.org

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

"Mae'r tymor Nadoligaidd hwn yn gyfle gwych i ddathlu creadigrwydd, ymroddiad ac ysbryd ein cymunedau lleol. Hoffwn ni ddiolch i'r holl wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol y mae eu gwaith caled yn dod â phobl at ei gilydd ac yn gwneud Sir Gaerfyrddin yn lle mor arbennig. Rwy'n annog pawb i gymryd rhan, ymuno yn y gweithdai a'r digwyddiadau, a mwynhau'r holl weithgareddau Nadoligaidd sy'n digwydd ledled y sir.

Rydyn ni'n annog pawb i fynd i gymryd rhan yn y gweithgareddau Nadoligaidd hyn."

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau a gefnogir gan Raglen Cymunedau Cynaliadwy Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, ewch i: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/busnes/cronfa-ffyniant-gyffredin-y-du-cronfa-cymunedau-cynaliadwy/

I weld mwy o ddigwyddiadau Nadolig lleol, ewch i dudalen Be Sy’mlaen Darganfod Sir Gâr: https://www.darganfodsirgar.com/be-sy-mlaen