Bloc cawodydd eco-gyfeillgar newydd ym Mharc Gwledig Pen-bre
3 diwrnod yn ôl
Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyfleuster cawodydd carbon isel newydd yn Safle Carafannau a Gwersylla Teuluol Parc Gwledig Pen-bre. Caiff yr adeilad ei bweru gan system pwmp gwres o'r aer sy'n cael ei chyflenwi gan Baxi, ac mae'n cefnogi ymdrechion y Cyngor i leihau allyriadau tra'n darparu cyflenwad dŵr twym dibynadwy.
Mae'r safle gwersylla, a enwyd yn Safle Gwersylla Gorau De-orllewin Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth De-orllewin Cymru 2024, yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau modern a hygyrch. Ffurfia'r bloc cawodydd newydd ran o raglen ehangach y Cyngor i wella'r seilwaith ymwelwyr mewn ffordd sy'n gyfrifol yn amgylcheddol.
Roedd rheoliadau adeiladu Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r system dŵr twym weithio gydag allyriadau carbon sero net, gan gyrraedd safonau uchel ar gyfer effeithlonrwydd ynni a pherfformiad ar yr un pryd. Penodwyd yr ymgynghorwyr peirianneg lleol Pursey a Ball i oruchwylio'r gwaith dylunio a gosod, gan weithio gyda Baxi fel y gwneuthurwr cyfarpar a ddewiswyd.
Bydd cynllun cynnal a chadw parhaus ar gyfer y system pwmp gwres er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio'n effeithiol yn y tymor hir.
Dywedodd Mervyn Mayers, Cyfarwyddwr Pursey and Ball: "Aeth popeth yn hynod o dda o'r cychwyn gyda'r prosiect hwn. Ar rai prosiectau mae problemau'n gallu bod gan nad yw'r cleient yn deall sut i weithio'r system, ond nid gyda'r prosiect hwn, sy'n dangos ei bod yn hawdd iawn i'w defnyddio ac yn hwylus i gleientiaid.
Mae Baxi wedi cymryd pympiau gwres at eu calonnau. Maen nhw wedi dod â'u harbenigedd gwresogi a'u dealltwriaeth o systemau hydrolig a modern i'w pympiau gwres, sy'n cael eu cefnogi gan eu gwasanaeth cwsmeriaid a'u cymorth wrth gefn arbennig. O ystyried bod prosiectau ASHP yn fwy cymhleth yn dechnegol, bydd gallu dibynnu ar brofiad a chefnogaeth gweithgynhyrchwyr fel Baxi yn hanfodol i gael y canlyniadau gorau posibl.”
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
"Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut mae Sir Gâr ar flaen y gad wrth ddarparu datrysiadau ymarferol a chynaliadwy. Trwy fuddsoddi mewn technoleg adnewyddadwy ym Mharc Gwledig Pen-bre, rydyn ni'n lleihau allyriadau carbon, yn cefnogi ein hymrwymiadau hinsawdd, ac yn gwella profiad ymwelwyr yn un o'n hatyniadau mwyaf poblogaidd.”
I gael manylion am y Safle Carafannau a Gwersylla Teuluol, ewch i: Safle Gwersylla - Parc a Thraeth Parc Gwledig Pen-bre
Bydd archebion 2026 yn agor ar 5 Ionawr 2026 am 10am.
