Y Cynghorydd Darren Price yn ymddiswyddo fel Arweinydd y Cyngor am resymau personol

3 diwrnod yn ôl

Mae'r Cynghorydd Darren Price wedi ymddiswyddo o'i swydd fel Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin am resymau personol.

Bydd y Cynghorydd Price yn parhau i sefyll fel cynghorydd Plaid Cymru. Bydd Arweinydd newydd ar gyfer y Cyngor yn cael ei benodi yng nghyfarfod y Cyngor sydd ar hyn o bryd i'w gynnal ar 10 Rhagfyr 2025

Bydd y Cynghorydd Linda Davies Evans, Dirprwy Arweinydd y Cyngor Sir yn cyflawni swyddogaethau'r Arweinydd nes bod y swydd wedi'i llenwi.