Tîm Iechyd Anifeiliaid Sir Gaerfyrddin yn ymweld â safle yn ardal Pontyberem ar ôl cadarnhau achos o ffliw adar
9 awr yn ôl
Ar ôl cadarnhau achos o ffliw adar pathogenig iawn mewn dofednod yn ardal Pontyberem, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan parth gwarchod ffliw adar 3 chilometr a pharth gwyliadwriaeth 10 cilometr o amgylch y safle heintiedig.
Bydd Swyddogion Iechyd Anifeiliaid o Gyngor Sir Caerfyrddin yn ymweld â'r holl safleoedd (busnesau, cartrefi, daliadau amaethyddol a chyfeiriadau eraill) o fewn y parthau hyn sydd wedi'u sefydlu i helpu i atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach.
Mae unrhyw safleoedd sydd â dofednod neu adar eraill bellach yn ddarostyngedig i amodau penodol a chyfyngiadau symud, gan gynnwys mesurau bioddiogelwch uwch. Mae rhagor o wybodaeth am y mesurau hyn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn ogystal â map sy'n dangos maint y parthau.
Mae'r clefyd a gadarnhawyd ym Mhontyberem yn cael ei achosi gan straen pathogenig iawn o ffliw adar sydd wedi'i addasu ar gyfer adar ac sy'n peri risg isel iawn i iechyd pobl.
Ni fydd angen i unrhyw breswylydd neu berchennog busnes yn ardal Pontyberem nad yw'n cadw adar gymryd unrhyw gamau pellach.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Mae cadarnhau achos o ffliw adar yn ardal Pontyberem yn newyddion trist iawn i berchennog y dofednod dan sylw, ond rwyf am roi sicrwydd i'r preswylwyr fod y feirws hwn yn peri risg isel iawn i iechyd pobl.
Rwy'n annog y rhai sy'n cadw dofednod neu adar eraill yn yr ardal i ddilyn y mesurau bioddiogelwch uwch. Mae unrhyw un sy'n cadw adar y tu allan i'r parthau hyn, ond yng Nghymru, yn dal i fod yn destun cyfyngiadau parthau atal Cymru gyfan Llywodraeth Cymru a ddaeth i rym ar 13 Tachwedd.”
I roi gwybod am adar dŵr gwyllt sydd wedi marw (elyrch, gwyddau neu hwyaid) neu adar gwyllt marw eraill, fel gwylanod neu adar ysglyfaethus, cysylltwch â Llinell Gymorth Defra drwy ffonio 03459 33 55 77 (opsiwn 7).
