Tîm Hwb Cyngor Sir Caerfyrddin yn meithrin cysylltiadau newydd â Chlwb Cyn-filwyr Milwrol Cymru

2 diwrnod yn ôl

Ar 6 Hydref, aeth tîm Hwb Cyngor Sir Caerfyrddin i Ganolfan Gymunedol Cwmaman i roi cyflwyniad ar y fenter Hawliwch yr hyn sy’n Ddyledus i Chi i aelodau Clwb Cyn-filwyr Milwrol Cymru.

Rhoddodd y sesiwn drosolwg i'r aelodau o'r cymorth sydd ar gael trwy Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, sef gwasanaeth a gafodd ei lansio yn 2021 i helpu preswylwyr i gael mynediad at yr hawliau, y cymorth ariannol a'r gwasanaethau nad ydynt efallai yn sylweddoli eu bod yn gymwys i'w cael. Mae'r tîm ymroddedig o ymgynghorwyr yn yr Hwb yn darparu cymorth personol i sicrhau bod pob cwsmer yn cael yr help sydd ei angen arno, gan weithio ochr yn ochr â sefydliadau partner i gael cymorth arbenigol ychwanegol.

Yn dilyn yr ymweliad llwyddiannus, mae'r tîm Hwb yn falch iawn o gyhoeddi partneriaeth newydd gyda Chlwb Cyn-filwyr Milwrol Cymru, sy'n galluogi cydatgyfeiriadau rhwng y ddau sefydliad. Bydd y cydweithrediad hwn yn helpu i sicrhau bod cyn-filwyr, eu teuluoedd a'u cefnogwyr ledled Sir Gaerfyrddin a thu hwnt yn gallu cael mynediad at y cymorth ymarferol a chymdeithasol sydd ei angen arnynt.

Sefydlwyd Clwb Cyn-filwyr Milwrol Cymru, sydd wedi'i leoli yn Nyffryn Aman ac sydd ag aelodau ledled Cymru, i hyrwyddo cyfeillgarwch ac i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd ymhlith cyn-filwyr milwrol, eu teuluoedd a'u cefnogwyr. Mae'r clwb yn cynnig aelodaeth am ddim ac ystod eang o weithgareddau wythnosol gan gynnwys saethu, bowlio, a chyfle i gwrdd i gael brecwast, ac mae'r cyfan oll i fod yn groesawgar, yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bawb.

Mae'r clwb yn cyfarfod bob bore dydd Llun i gael brecwast yng Nghanolfan Gymunedol Cwmaman, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ei dudalen Facebook: Clwb Cyn-filwyr Milwrol Cymru.

Mae dolen i Glwb Cyn-filwyr Milwrol Cymru hefyd bellach ar gael ar dudalen we Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Aelod Cabinet dros Dai:

Mae Sir Gaerfyrddin yn falch o gefnogi ein cyn-filwyr a'u teuluoedd. Trwy weithio'n agos gyda sefydliadau fel Clwb Cyn-filwyr Milwrol Cymru, gallwn sicrhau bod y rhai sydd wedi gwasanaethu yn cael y cymorth, y gwmnïaeth a'r cyfleoedd y maent yn eu haeddu. Mae'r cydweithrediad hwn yn cryfhau ein hymrwymiad i lesiant cyn-filwyr ledled y sir.”

Trwy weithio gyda'i gilydd, mae tîm Hwb Cyngor Sir Caerfyrddin a Chlwb Cyn-filwyr Milwrol Cymru yn gobeithio cryfhau'r cymorth sydd ar gael i gymuned cyn-filwyr y sir - gan sicrhau nad oes neb yn colli'r cymorth, y gwmnïaeth na'r hawliau y mae'n ei haeddu.