Storm Claudia
Gwyntoedd cryf
Oherwydd gwyntoedd cryf o'r dwyrain, mae mwy o risg o goed yn cwympo. Cymerwch ofal ar y ffyrdd a rhowch wybod i ni ar-lein am unrhyw goed sydd wedi cwympo.
Fel bob amser, mae ein criwiau'n barod a byddan nhw'n ymateb i amodau sy'n newid. Cadwch lygad ar ragolygon y tywydd a chymerwch ofal ychwanegol ar eich teithiau.
Bagiau tywod
Ni all y Cyngor ddosbarthu bagiau tywod ymlaen llaw i gartrefi neu fusnesau. Os bydd y sefyllfa'n cyfiawnhau hynny, bydd y Cyngor yn gosod bagiau tywod mewn safleoedd strategol a bennwyd ymlaen llaw ledled y sir. Yn ystod tywydd garw, a dim ond os yw adnoddau'n caniatáu, ystyrir dosbarthu bagiau tywod i'r rhai sydd eu hangen fwyaf a chyflenwad cyfyngedig ohonynt sydd ar gael.
Yn dilyn y glaw trwm a'r llifogydd yr wythnos ddiwethaf, mae nifer o fagiau tywod eisoes wedi'u dosbarthu i wahanol leoliadau. Dylech chi geisio ailddefnyddio'r bagiau tywod hyn yn y lle cyntaf.
Mae system flaenoriaethu'r Cyngor yn sicrhau bod adnoddau cyfyngedig yn cael eu cyfeirio i'r mannau ble gallant atal y niwed mwyaf. Rydym yn atgoffa trigolion bod parodrwydd personol yn hanfodol yn ystod cyfnodau o law trwm a pherygl llifogydd. Gellir prynu tywod a bagiau tywod o'r rhan fwyaf o siopau DIY/cyflenwyr adeiladwyr a chyflenwyr agregau lleol.
