Siopau sionc Nadolig 100% Sir Gâr yn ôl fis Rhagfyr eleni

2 diwrnod yn ôl

Bydd cyfle unwaith eto i fusnesau bach lleol serennu ar y stryd fawr ym mis Rhagfyr, wrth i Gyngor Sir Caerfyrddin ddod â siopau sionc Nadolig 100% Sir Gâr i Gaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman.

Am dair wythnos yn y cyfnod cyn y Nadolig, gall siopwyr ddarganfod amrywiaeth gwych o anrhegion artisan, addurniadau wedi'u gwneud â llaw, bwyd a diod lleol, crefftau, ffasiwn, a mwy; a chefnogi masnachwyr a chynhyrchwyr lleol ar yr un pryd.

Mae'r fenter gyffrous hon yn rhan o raglen 100% Sir Gâr y Cyngor ac mae'n cael ei hariannu'n rhannol gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Caerfyrddin - yr hen Cotswolds a chabanau Nadolig ar Rodfa'r Santes Catrin  

  • Wythnos 1: Dydd Mercher 3 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr 10am - 4pm
  • Wythnos 2: Dydd Mercher 10 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 13 Rhagfyr 10am - 4pm
  •  Wythnos 3: Dydd Llun 16 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 20 Rhagfyr, 10am - 4pm

Llanelli – yr hen siop EE

  • Wythnos 1: Dydd Mercher 3 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr 10am - 4pm
  • Wythnos 2: Dydd Mercher 10 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 13 Rhagfyr 10am - 4pm
  • Wythnos 3: Dydd Llun 16 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 20 Rhagfyr, 10am - 4pm

Rhydaman – Plaza ac Arcêd Rhydaman (mewn partneriaeth â... Chwmni Buddiant Cymunedol Cymru Ymlaen)

  • Wythnos 1: Dydd Mercher 3 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr 10am - 4pm
  • Wythnos 2: Dydd Mercher 10 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 13 Rhagfyr 10am - 4pm
  • Wythnos 3: Dydd Llun 16 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 20 Rhagfyr, 10am - 4pm

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Rydyn ni'n falch o gefnogi busnesau bach, lleol drwy ddarparu lleoliad masnachu gwych yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.
Nid yw'r busnesau a'r cynhyrchwyr lleol sy'n masnachu o'n siopau sionc Nadolig 100% Sir Gâr fel arfer yn cael cyfle i arddangos eu cynnyrch gwych ar y stryd fawr. Mae hwn yn gyfle gwych i bawb fwynhau, profi a phrynu cynhyrchion lleol a chefnogi ein heconomi leol.