Rhybudd o eira ac ia
Graeanu
Tarfu ar gasgliadau gwastraff/ailgylchu
Mae'r tywydd garw wedi tarfu ar rai casgliadau gwastraff heddiw.
Mae gwybodaeth ar ein gwefan am yr ardaloedd lle mae tarfu wedi bod.
Diolch am eich amynedd ac am ddeall.
Ysgolion ar gau
Mae rhai ysgolion Sir Gaerfyrddin ar gau.
Mae rhai ardaloedd o Sir Gaerfyrddin wedi cael eira dros nos. Byddwn yn parhau i adolygu ac ymateb i’r tywydd.
Ofalwch fod gennych y wybodaeth a'r newyddion am dywydd gaeafol, yn cynnwys rhybuddion tywydd a chyngor, gan gynnwys graeanu, gyrru'n ddiogel, ac awgrymiadau i ofalu am eich cartref a mwy.
Mae gennym 13 o safleoedd monitro tywydd ar y ffyrdd ar draws y Sir, pob un â chamerâu sefydlog sy'n diweddaru bob 10 munud. Gall y delweddau helpu i asesu amodau presennol y ffyrdd ac ar gyfer cynllunio teithiau.
Camerâu Tywydd ar Ochr y Ffordd
Cymerwch ofal a gyrrwch yn ddiogel.
Mae rhybudd melyn am eira a rhew wedi cael ei gyhoeddi am rhannau o Sir Gaerfyrddin tan hanner nôs yfory (dydd Iau 21 Tachwedd)
Byddwn yn graeanu’r prif ffyrdd a ffyrdd sirol heno a trwyr nôs. Cymerwch ofal ar y ffyrdd ac byddwch yn wyliadwrus o'r amodau sy'n newid.
Os bydd unrhyw darfu ar wasanaethau'r Cyngor, bydd modd ichi gael y wybodaeth ddiweddaraf am hynny ar dudalen Newyddion y Cyngor.
Gwybodaeth am ein polisi graeanu a'n llwybrau sy'n cael blaenoriaeth
