Person ifanc sy'n gadael gofal yn Sir Gaerfyrddin yn rhannu ei stori
19 diwrnod yn ôl
A hithau'n Fis Cenedlaethol Pobi Ifanc sy'n Gadael Gofal (Tachwedd 2025) dewch i gwrdd â Jodie, person ifanc sy'n gadael gofal yn Sir Gaerfyrddin. Yn dilyn pryderon am ei hamgylchiadau gartref, aeth Jodie i ofal maeth yn ei harddegau a threuliodd weddill ei phlentyndod mewn gofal maeth.
Yn ystod ei chyfnod mewn gofal maeth yn Sir Gaerfyrddin, daeth Jodie i gyfarfod â'i mam faeth, Jackie. Bedair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, maen nhw'n parhau i chwarae rhan enfawr ym mywydau ei gilydd.
Meddai Jodie:
Jackie yw'r fendith fwyaf a ddaeth i mewn i'm bywyd erioed.
Rydyn ni'n fam a merch.
Mae hi wedi dangos i mi y math o fam yr hoffwn i fod.”
Mae Jodie yn edrych yn ôl ar ei pherthynas â Jackie, a'r sefydlogrwydd a'r hyder y mae Jackie wedi ei helpu i ddatblygu. Mae hi'n siarad yn agored am yr heriau o fod mewn gofal maeth, y rhan anoddaf o adael gofal maeth, a'r sylweddoliad nad oes angen iddi deimlo cywilydd am ei gorffennol.
Mae Jodie hefyd yn rhannu neges o'r galon i eraill sydd wedi bod trwy ofal maeth, a'r rhai sydd mewn gofal maeth heddiw.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion, Plant a Theuluoedd:
Mae Mis Cenedlaethol Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yn amser pwysig i gydnabod gwytnwch a chyflawniadau pobl ifanc sy'n gadael gofal. Mae stori Jodie yn un o lawer sy'n ein hysbrydoli ni yn Sir Gaerfyrddin.”
Er gwaethaf yr heriau a wynebodd, mae Jodie bellach yn rhedeg ei busnes llwyddiannus ei hun ac yn adeiladu bywyd hapus gyda'i dwy ferch. Mae ei stori yn dangos sut y gall y gefnogaeth gywir helpu pobl ifanc i symud tuag at ddyfodol cadarnhaol.
I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yn Sir Gaerfyrddin, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr.
