Merch yn ei harddegau o Sir Gaerfyrddin i gynrychioli'r sir mewn dadl fawreddog yn Nhŷ'r Cyffredin

3 diwrnod yn ôl

Bydd merch yn ei harddegau o Sir Gaerfyrddin yn mynd i Dŷ'r Cyffredin yr wythnos hon i gynrychioli lleisiau pobl ifanc o bob rhan o'r sir a'r DU.

Ddydd Iau 6 Tachwedd 2025, bydd Evie Sommers, 17 oed o Gaerfyrddin, yn ymuno â 300 o Aelodau eraill o Senedd Ieuenctid y DU o bob rhan o'r Deyrnas Unedig, Tiriogaethau Tramor Prydain, a Dibyniaethau'r Goron ar gyfer sesiwn flynyddol Senedd Ieuenctid y DU.

Mae'r digwyddiad – a gynhelir yn siambr hanesyddol Tŷ'r Cyffredin – yn rhoi cyfle unigryw i gynrychiolwyr ifanc drafod y materion sydd o bwys mwyaf iddyn nhw ac i ddylanwadu ar benderfyniadau a wneir yn genedlaethol.

Bydd y sesiwn eleni, a drefnir gan yr Asiantaeth Genedlaethol Ieuenctid mewn partneriaeth â Senedd y DU, yn cynnwys pum dadl allweddol ar y pynciau canlynol:

  • Tai
  • Iechyd
  • Cyflogaeth
  • Troseddu
  • Cynaliadwyedd

Daw'r pynciau hyn o faniffesto newydd Senedd Ieuenctid y DU ar gyfer 2024–26, o'r enw "Llunio Ein Dyfodol: Heddiw Nid Fory”.

Meddai Evie:

Rwy'n edrych ymlaen at glywed barn Aelodau eraill o'r Senedd Ieuenctid yn y sesiwn yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae cynrychioli pobl ifanc Sir Gaerfyrddin yn y siambr yn fraint ac anrhydedd enfawr.”

Yn ei rôl fel cynrychiolydd ieuenctid etholedig, mae Evie wedi ymrwymo i weithio gyda llunwyr polisi a gwneuthurwyr penderfyniadau i fynd i'r afael â'r materion hyn sydd o flaenoriaeth, gan sicrhau bod safbwyntiau ac anghenion pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt yn cael eu clywed ar y lefelau uchaf.

Meddai'r Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg a'r Gymraeg:

Rydym yn hynod falch o Evie am gynrychioli Sir Gaerfyrddin mewn digwyddiad mor fawreddog. Mae cymryd rhan yn nadl Senedd Ieuenctid y DU yn Nhŷ'r Cyffredin yn gyflawniad rhyfeddol ac yn dyst i'w hymroddiad i roi llais i bobl ifanc. Mae gan ein pobl ifanc gymaint i'w gyfrannu at ddyfodol ein cymunedau, ac mae cyfleoedd fel hyn yn sicrhau bod eu syniadau a'u hangerdd yn cael eu clywed ar lefel genedlaethol.”

Bydd y cynrychiolwyr ifanc yn cael eu croesawu'n ffurfiol i'r siambr gan y Gwir Anrhydeddus Syr Lindsay Hoyle AS, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin.

Bydd y ddadl yn cael ei darlledu'n fyw ar Parliament TV a'i ffrydio ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Senedd y DU. Gall aelodau o'r cyhoedd ddilyn y drafodaeth ar-lein gan ddefnyddio'r hashnod #UKYPHoC.

Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan yng Nghyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, ewch i: www.youthsirgar.org.uk