Gwahodd busnesau garddio Sir Gaerfyrddin i ymuno â chynllun Prynu â Hyder dibynadwy
2 diwrnod yn ôl
Mae tîm Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog busnesau garddio lleol i ymuno â'r cynllun Prynu â Hyder a gydnabyddir yn genedlaethol - partneriaeth ddibynadwy rhwng busnesau, defnyddwyr a gwasanaethau Safonau Masnach.
Mae'r cynllun yn helpu defnyddwyr i ddod o hyd i fasnachwyr lleol ag enw da sydd wedi cael eu gwirio a'u cymeradwyo gan Safonau Masnach, gan hyrwyddo hyder yng nghymuned fusnes Sir Gaerfyrddin.
Ar hyn o bryd mae Safonau Masnach yn derbyn cynnydd mewn ceisiadau gan ddefnyddwyr ar gyfer busnesau garddio sy'n aelodau o'r cynllun. Fodd bynnag, gwahoddir busnesau o bob sector sydd wedi bod yn masnachu ers o leiaf chwe mis ac sy'n gallu dangos eu hymrwymiad i arferion masnachu teg a gonest i wneud cais am aelodaeth.
Gall darpar aelodau ddod o hyd i ragor o wybodaeth a gwneud cais drwy fynd i www.buywithconfidence.gov.uk. Sylwch y gall ffioedd aelodaeth Cyngor Sir Caerfyrddin fod yn wahanol i'r rhai a restrir ar-lein, gan y gall gostyngiadau lleol fod yn berthnasol.
I gael sgwrs anffurfiol cynd gwneud cais, cysylltwch â thîm Safonau Masnach drwy ffonio 01554 772149.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Defnyddwyr a Busnes:
Rydyn ni'n falch o gefnogi'r cynllun Prynu â Hyder yma yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n cynnig sicrwydd i breswylwyr sy'n chwilio am fasnachwyr dibynadwy ac yn rhoi cyfle i fusnesau lleol fod yn amlwg o aran bod yn ddibynadwy ac yn broffesiynol.
Mae galw mawr am wasanaethau garddio, ac mae hwn yn gyfle gwych i fasnachwyr lleol ddangos eu hymrwymiad i wasanaeth cwsmeriaid da a masnachu teg. Byddwn i'n annog yr holl fusnesau cymwys i ystyried ymuno."
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn atgoffa preswylwyr i fod yn ofalus wrth gyflogi masnachwyr. Gwnewch eich ymchwil bob amser cyn cytuno i unrhyw waith, yn enwedig os ydych chi'n cysylltu â galwyr diwahoddiad, os oes rhywun yn gofyn am flaendaliadau mawr ymlaen llaw neu os nad yw'r masnachwr yn darparu gwaith papur neu dderbynebau.
Ceisiwch argymhellion gan deulu neu ffrindiau dibynadwy ar gyfer mathau tebyg o waith a chofiwch efallai na fydd sgiliau mewn un maes bob amser yn trosglwyddo i un arall.
I ddod o hyd i fasnachwyr lleol wedi'u gwirio a'u cymeradwyo, ewch i www.buywithconfidence.gov.uk.
Os nad oes gennych chi fynediad i'r rhyngrwyd, gallwch chi ofyn am gopi printiedig o'r rhestr o fasnachwyr cymeradwy drwy ffonio 01267 234567.
