Dyma'ch cyfle i gael dweud eich dweud am newidiadau arfaethedig i'r ystod oedran yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Talacharn
5 awr yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyflwyno hysbysiad statudol i ehangu mynediad at addysg blynyddoedd cynnar yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Talacharn drwy newid yr ystod oedran o 4-11 i 3-11 oed.
Pe byddai hyn yn cael ei gymeradwyo, byddai'r newidiadau'n caniatáu i blant o dair oed gael mynediad at addysg feithrin ran-amser wedi'i hariannu yn yr ardal, er mwyn ateb y galw am addysg feithrin ran-amser a gofal plant cofleidiol. Byddai hyn hefyd yn caniatáu i'r ysgol gynnig o leiaf 10 awr yr wythnos o addysg blynyddoedd cynnar ran-amser anstatudol, i helpu i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth a sicrhau mynediad tecach at addysg blynyddoedd cynnar ledled y sir.
Mae'r ymgynghoriad yn cau ar 22 Rhagfyr 2025 ac mae'n rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i foderneiddio'r ddarpariaeth addysg ledled Sir Gaerfyrddin.
Mae gwahoddiad i rieni, gofalwyr, staff, Llywodraethwyr, aelodau o gymuned ehangach yr ysgol, a rhanddeiliaid eraill anfon eu sylwadau fel rhan o'r broses ymgynghori ar-lein, drwy e-bost neu drwy'r post at:
Mr Owain Lloyd
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
Daw'r cynigion hyn yn dilyn penderfyniad gan Gabinet y Cyngor ym mis Mawrth 2024 i ddileu'r polisi "Plant sy'n Codi'n 4 oed" o 1 Medi 2025, sy'n golygu y bydd plant yn hytrach yn dechrau addysg amser llawn ar ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies:
"Os cytunir ynghylch y cynnig hwn, bydd yn sicrhau bod gan bob plentyn yn ardal Talacharn fynediad tecach at addysg blynyddoedd cynnar.
Bydd hyn yn helpu i gryfhau'r gymuned leol ac i gefnogi teuluoedd yn ystod cyfnod pwysig yn natblygiad eu plant. Rwy'n annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a rhannu eu barn."
Ar ôl y cyfnod ymgynghori bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet i gael penderfyniad yn ei gylch.
