Cyngor yn cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn
14 awr yn ôl
Unwaith eto, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn 2025, a gynhelir ddydd Mawrth, 25 Tachwedd ac a ddilynir gan 16 Diwrnod o Weithredu.
Y Rhuban Gwyn yw prif elusen y DU o ran ymgysylltu â dynion a bechgyn i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.
Er bod cam-drin domestig yn effeithio ar y ddau ryw, trais gan ddynion yn erbyn menywod yw'r rhan fwyaf o'r digwyddiadau treisgar. Ond yn y pen draw, mae trais gan ddynion yn erbyn menywod yn fater i bawb, nid dim ond menywod.
Y thema eleni yw codi llais ("We Speak Up") ac mae'n annog dynion i ddefnyddio eu llais i greu byd lle mae pawb yn ddiogel, yn gyfartal ac yn cael eu parchu. I gael gwybod rhagor ewch i: https://www.whiteribbon.org.uk/wespeakup
Bydd baneri'r Rhuban Gwyn yn hedfan yn Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin a neuaddau tref Llanelli a Rhydaman ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn. Bydd Neuadd y Sir hefyd yn cael ei goleuo gyda’r nos ar 25 Tachwedd i ddangos cefnogaeth.
Cadwch lygad am bosteri’r Rhuban Gwyn a fydd yn cael eu harddangos ar sgrin ddigidol yn y gorsafoedd bysiau ledled y sir. Cymerwch eiliad i roi cip arnynt,, dysgu mwy am yr ymgyrch, ac ymunwch â ni i ddangos eich cefnogaeth. Gyda'n gilydd, gallwn helpu i wneud Sir Gaerfyrddin yn lle mwy diogel a pharchus i bawb.
Bydd y Cyngor yn parhau i godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch wrth weithio gydag asiantaethau partner, fel yr Heddlu, ac wrth ymweld â safleoedd trwyddedig ledled y sir, yn ogystal ag yn adeiladau'r Cyngor.
Ychwanegodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Ddiogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Carys Jones:
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i sefyll ochr yn ochr ag ymgyrch y Rhuban Gwyn unwaith eto eleni. Nid oes lle i drais yn erbyn menywod a merched yn ein cymunedau, ac mae'n hanfodol bod dynion yn codi eu llais ac yn chwarae eu rhan wrth herio ymddygiad sy’n niweidio. Trwy godi ymwybyddiaeth, rydyn ni’n ymrwymo i wneud Sir Gaerfyrddin yn rhywle lle gall pawb fyw heb ofn."
